Stephen Crabb
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi’i enwi yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd llywodraeth David Cameron, gan gymryd lle Iain Duncan Smith a ymddiswyddodd ddoe.
Mae Alun Cairns wedi’i enwi yn Ysgrifennydd Cymru i gymryd lle Stephen Crabb.
Fe wnaeth David Cameron y cyhoeddiadau ar ei wefan Twitter heddiw.
Mae yna swydd newydd i Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb, hefyd, wrth iddo gael ei ddyrchafu’n Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru. Mae hefyd wedi’i benodi yn un o Chwipiaid y Llywodraeth yn San Steffan.