Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn rhybuddio’r rheiny sy’n teithio i’r brifddinas ar gyfer gêm ola’ Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016, i ganiatau digon o amser ar gyfer y daith ac i gyrraedd y stadiwm.

Fe fydd nifer o strydoedd y brifddinas yn cau o amser cinio (12.30yp)  ymlaen, gan fod y gêm rhwng Cymru a’r Eidal yn Stadiwm y Principality yn dechrau am 2 o’r gloch.

* Yn ogystal â chanol y ddinas, fe fydd yna gyfyngiadau teithio ar Ffordd y Brenin, Cowbridge Road East, Stryd Tudor, Stryd Plantagenet, Stryd Beauchamp, Heol Saunders, Stryd Custom House a Heol Penarth;

* Fydd yna ddim bysiau yn aros yng nghanol y ddinas am gyfnod y gêm, ond fe fydd modd i deithwyr gael eu gollwng mewn safloedd eraill;

* Fe fydd safle tacsis Heol Eglwys Fair ar gau rhwng 2.30yo ac 8yh;

* At hyn, mae cwmni Trenau Arriva Cymru wedi rhybuddio y bydd trefn giwio mewn grym i deithwyr sy’n dal trenau o orsaf Caerdydd Canolog ar ôl y gêm.