Mitt Romney
Mae cyn-ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, Mitt Romney, wedi cyhoeddi y bydd yn bwrw pleidlais tros Ted Cruz yn y rownd y etholiadau yn nhalaith Utah – ac wrth wneud hynny, mae wedi ymosod eto ar y ceffyl blaen, Donald Trump.

“Mae yna frwydr rhwng bod yng ngharfan Trump a bod yn Weriniaethwr,” meddai Mitt Romney ar ei dudalen Facebook swyddogol.

“Trwy ddatganiadau mawr ei arweinydd, mae carfan Trump wedi cael ei chysylltu â hiliaeth, anoddefgarwch ac, yn fwy diweddar, bygythiadau a thrais. Mae pob un o’r rhain yn wrthun gen i.”

Mewn ymateb ar wefan gymdeithasol Twitter, fe nododd Donald Trump fod Mr Romney hefyd wedi cefnogi’r ymgeiswyr John Kasich a Marco Rubio yn gynharach yn y ras: “Dyn cymysglyd iawn ydi Mitt Romney,” meddai Donald Trump. “Does ganddo ddim syniad! Dim rhyfedd ei fod o wedi colli!”