Safle'r ymosodiad yn Ankara, prifddinas Twrci
Roedd un o’r hunan-fomwyr a oedd yn gyfrifol am ymosodiad bom yn Ankara ddydd Sul, yn ddynes 24 oed yr honnir oedd wedi ymuno a gwrthryfelwyr Cwrdaidd yn 2013 ac wedi hyfforddi yn Syria, yn ôl llywodraeth Twrci.

Mewn datganiad mae’r llywodraeth yn dweud mai Seher Cagla Demir oedd un o’r bomwyr fu’n gyfrifol am yr ymosodiad a laddodd 37 o bobl, ac anafu 125 o bobl eraill.

Dywed y datganiad bod Demir wedi ymuno a gwrthryfelwyr y PKK, gan groesi i Syria er mwyn cael “hyfforddiant mewn brawychiaeth”.

Roedd lluoedd Twrci wedi cynnal cyrchoedd awyr ar nifer o safleoedd y PKK yn Irac wedi’r ymosodiad.