Y Capten Thomas Clarke o'r Bontfaen
Mae Crwner wedi argymell y dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn wneud cyfres o welliannau diogelwch wedi i bum milwr, gan gynnwys dau o Gymru, gael eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan ddwy flynedd yn ôl.

Bu farw’r Capten Thomas Clarke o’r Bontfaen a’r Is-gorporal  Oliver Thomas o Aberhonddu yn y ddamwain yn nhalaith Kandahar ar Ebrill 26, ynghyd â’r Swyddog Spencer Faulkner, y Corporal James Walters a’r Awyr Lefftenant Rakesh Chauhan.

Yn Llys y Crwner Rhydychen heddiw, fe ddywedodd y Crwner Darren Salter y dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn adolygu ei lefelau staffio a’r pwysau sydd ar weithwyr.

Yn ogystal, fe ddywedodd y dylai cofnodion data’r hediadau gael eu trosglwyddo i awyren arall, wedi i bryderon gael eu codi pan na chafodd larwm diogelwch ei chanu wrth i’r hofrennydd ddisgyn i’r llawr.


Is-gorporal Oliver Thomas o Aberhonddu
‘Gadael i lawr’

Fe ddywedodd teulu Oliver Thomas o Aberhonddu eu bod yn teimlo fel pe baent wedi cael eu “gadael i lawr.”

Mewn datganiad, fe ddywedon nhw fod gan “Y Weinyddiaeth Amddiffyn, a rheiny ynghlwm, gyfrifoldeb am ofal eu gweithwyr a’u teithwyr, ac yn ein barn ni, wnaethon nhw ddim darparu hyn i Oliver yn ei methiant i lynu at y rheolau a’r gweithdrefnau a osodwyd.”

“Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anodd ofnadwy ers colli Oliver, oedd wrth ei fodd â’r hyn oedd e’n ei wneud yn Afghanistan.

“Roedd yn uchel ei barch ymhlith ei gydweithwyr a oedd yn ei ddisgrifio fel y ‘dyn i droi ato’.”

“Cafodd ei ddyfodol ei gymryd oddi wrtho a ninnau yn drasig.”

‘Cwestiynau mawr’

Mewn teyrnged i’r Capten Thomas Clarke o’r Bontfaen, fe ddywedodd ei deulu fod “cwestiynau mawr” yn parhau am y ddamwain.

“Mae colli Tom mor drasig wedi gadael twll yn ein bywydau fyddwn ni byth yn medru ei lenwi.”

“Roedd ei ddewrder, ei onestrwydd a’i garedigrwydd yn arwydd o’r dyn yr oedd.

“Roeddem ni’n deall y gallai’r rôl hwn fel peilot hofrennydd fod yn beryglus, ond roedd e wastad yn berffeithydd proffesiynol gyda’i sgiliau hedfan ac arwain, ac yn uchel ei barch gan ei gyfoedion a’r uwch swyddogion.”

Fe ddywedon nhw na fyddan nhw byth yn sicr o achos y ddamwain a bod “cwestiynau mawr am sut y digwyddodd yn parhau.”

Er hyn, maen nhw’n derbyn bod y cyfan wedi’i wneud i geisio canfod yr achos, ac maen nhw’n croesawu argymhelliad y crwner i holl hofrenyddion milwrol gadw cofnodion data hediadau.

‘Dysgu gwersi’

“Roedd y digwyddiad hwn yn atebol i ymchwiliad gwasanaeth trylwyr ac mae camau wedi eu cymryd ers hynny i leihau’r risg o hyn rhag digwydd eto,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Fe fyddwn ni nawr yn astudio canfyddiadau’r crwner yn ofalus i adnabod unrhyw wersi eraill y gellir eu dysgu.”