M4
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gynnal ymgynghoriad am ddyfodol prosiect yr M4 ar ddiwedd tymor y Cynulliad.

Yn ôl Llŷr Gruffydd, Llefarydd Amgylchedd Plaid Cymru: “Mae penderfyniad y llywodraeth i ymgynghori ar Orchmynion Drafft gan roi pwerau cyfreithiol i barhau ar y llwybr du dadleuol – pan nad yw’r Cynulliad mewn sesiwn yn ymgais glir i osgoi archwiliad ar eu cynlluniau gwario.”

Caiff dyfodol y cynllun i adeiladu rhan newydd o’r M4 o gwmpas Casnewydd ei drafod wedi i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar 4 Mai  – ddiwrnod cyn Etholiadau’r Cynulliad.

‘Anghyfrifol a llechwraidd’

Fe ddywedodd Llyr Gruffydd fod “Llafur wedi ceisio gwthio’r prosiect yn ei flaen trwy gynnal yr ymgynghoriad hwn wedi diwedd tymor y Cynulliad.

“Golyga hyn y cynhelir trafodaethau pwysig ar yr ymrwymiad gwario mwyaf yng Nghymru pan na fydd sesiwn y Cynulliad ymlaen.

“Bydd llawer o randdeiliaid ac unigolion yn dibynnu ar gefnogaeth eu ACau i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac y mae cynnal y drafodaeth hon yn ystod cyfnod etholiad yn anghyfrifol ac yn llechwraidd.”

‘Ffafrio dewis rhatach’

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Leanne Wood y byddai’n rhaid i’r Blaid Lafur roi’r gorau i’w cynllun i adeiladu rhan newydd o’r M4 y tu allan i Gasnewydd cyn y byddai Plaid Cymru’n ystyried cydweithio â nhw yn y Cynulliad wedi’r etholiad.

Fe esboniodd Llyr Gruffydd fod Plaid Cymru’n gwrthwynebu cynllun y llwybr du “am ein bod yn ffafrio dewis rhatach y gellid ei gyflawni’n gynt a chan greu llai o niwed i’r amgylchedd.”

“Rydym ni eisiau gweld buddsoddi yng Nghymru gyfan, a byddai ein dewis ni i ateb problemau traffig yr M4 yn arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd i’w wario ar seilwaith ym mhob cwr o Gymru.”

‘Peiriannau yn y tir o fewn 12 mis’

Er hyn, fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y byddai ei blaid ef yn awyddus i gael “peiriannau yn y tir o fewn deuddeg mis ar ôl archwilio’r holl opsiynau posib.”

“Mae’n hollbwysig i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu ffordd osgoi’r M4, er mwyn creu swyddi, hybu twristiaeth a sicrhau newid go iawn i Gymru,” meddai.
“Mae pobl Cymru eisiau, ac yn haeddu gwybod, a fydd Prif Weinidog Cymru yn gwrthod ffordd osgoi M4 i bobol de Cymru er mwyn archwilio cytundeb cyfforddus gyda Phlaid Cymru ar ôl mis Mai?”