Mae meddygon teulu Cymru yn credu bod polisi Llywodraeth Cymru i gyflwyno oriau estynedig i feddygfeydd wedi methu, yn ôl arolwg gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
21% o feddygon a ymatebodd i arolwg y blaid yn dilyn cais i 650 o feddygfeydd, ac o’r rhai a ymatebodd, 77% oedd yn cytuno bod y polisi wedi bod yn fethiant.
Roedd 97% yn credu y dylai mwy gael ei wneud i hyrwyddo gweithio mewn meddygfa teulu fel proffesiwn.
Prif flaenoriaeth y meddygon ar y cyfan oedd gweld mwy o feddygon teulu yn cael eu cyflogi yng Nghymru.
Roedd 45% o’r meddygon a gafodd eu holi wedi dweud y byddan nhw’n elwa o gael gwell hyfforddiant mewn iechyd meddwl.
‘Llai gwleidyddol’
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am weld comisiwn annibynnol yn cael ei sefydlu i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru er mwyn ei wneud yn bwnc “llai gwleidyddol”.
“Mae Llafur wedi methu cyflawni ei haddewid allweddol yn etholiad 2011 i wella mynediad at feddygon teulu,” meddai Kirsty Williams, arweinydd y blaid.
“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn sicrhau’r driniaeth orau ar yr amser cywir i ddiwallu anghenion pob claf.”
Polisiau’r pleidiau eraill
Yn ôl yr arolwg, roedd 69% o feddygon yn cefnogi cynllun y Democratiaid Rhyddfrydol i wella mynediad i feddygfeydd, a fyddai’n golygu bod meddygfeydd yn gwneud cais am arian i’w gwneud yn fwy hygyrch.
Roedd 69% yn erbyn polisi’r Ceidwadwyr ac UKIP o gyflwyno system debyg i un y gwasanaeth heddlu o gyflwyno comisiynwyr iechyd etholedig.
A 66% o’r meddygon a holwyd oed yn erbyn polisi Plaid Cymru o greu un corff mawr a chael gwared a’r byrddau iechyd.
“Mae’r arolwg hwn yn ddamniol iawn o bolisïau’r pleidiau eraill. Mae’r proffesiwn iechyd yn glir bod angen llai o wleidyddiaeth ar ein Gwasanaeth Iechyd, nid mwy,” meddai Kirsty Williams.
Dywedodd y byddai polisi’r Ceidwadwyr yn gwneud i’r gwasanaeth gael ei drin fel “pêl droed wleidyddol” ac y byddai polisi Plaid Cymru o gael gwared a’r byrddau iechyd yn “tynnu arian o’r rheng flaen”.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y pleidiau eraill.