Y Llys Apel
Mae llanc a gafodd ddedfryd wedi ei gohirio am dreisio merch 12 oed wedi cael ei anfon i ganolfan i droseddwyr ifanc am dair blynedd gan y Llys Apêl.

Yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Ionawr, dywedodd y Barnwr Philip Richards bod achos Luke Grender, 18, yn un “anarferol iawn.”

Clywodd y barnwr bod Grender, a oedd yn 17 pan gyflawnodd y troseddau, wedi cael ei effeithio’n seicolegol a’i fod yn dioddef o anhwylder ôl-drawmatig (post-traumatic stress disorder – PTSD) ar ôl i’w chwaer gael ei llofruddio gan ei chynbartner tair blynedd yn gynharach.

Cafodd Nikitta Grender, a oedd yn feichiog ar y pryd, ei llofruddio gan Carl Whant yn ei fflat yng Nghasnewydd yn 2011.

Cafodd Luke Grender ddedfryd o 24 mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc wedi’i ohirio am ddwy flynedd ar ôl iddo bledio’n euog i dri chyhuddiad o dreisio.

Roedd wedi dechrau perthynas rywiol gyda’r ferch pan oedd hi’n 12 oed ac fe glywodd y llys ei fod yn gwybod ei hoedran o’r dechrau. Ar ddau achlysur roedd wedi ei gorfodi i gael rhyw yn erbyn ei hewyllys ac ar adegau eraill roedd hi wedi cydsynio.

Fe benderfynodd tri barnwr yn y Llys Apêl heddiw nad oedd dedfryd wreiddiol Luke Grender yn ddigonol ac mae wedi cael dedfryd o dair blynedd mewn canolfan i droseddwyr ifanc.

Dywedodd y Cyfreithiwr Cyffredinol Robert Buckland nad oedd y ddedfryd wreiddiol yn “adlewyrchu difrifoldeb y troseddau ac rwy’n falch fod y Llys Apêl wedi cynyddu’r ddedfryd.”