Carwyn Jones
Mae cytundeb a fydd yn golygu ‘hwb sylweddol’ i economi Caerdydd a’r cyffiniau wedi cael ei arwyddo’n swyddogol heddiw.
Mae arweinwyr 10 awdurdod lleol rhanbarth Caerdydd a Llywodraethau Cymru a’r DU wedi cytuno ar Fargen Ddinesig Caerdydd a fydd yn arwain at fuddsoddi £1.2 biliwn yn rhanbarth y brifddinas.
Dros gyfnod o 20 mlynedd, mae disgwyl i’r cytundeb newydd ddarparu hyd at 25,000 o swyddi a rhoi hwb o £4 biliwn i’r sector preifat.
Daw’r cytundeb ddiwrnod cyn i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi ei Gyllideb derfynol yn San Steffan, a dywedodd ei fod am greu “chwyldro datganoli” a “grymuso arweinwyr” yng Nghymru.
Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, gallai’r cytundeb arwain at ragor o gytundebau tebyg i Gymru – gyda Llywodraeth Cymru yn “pwyso” am un yn Abertawe a chynllun tebyg yn y Gogledd.
‘Arwydd o hyder’ yn y brifddinas
Fel rhan o’r cytundeb, daw £500 miliwn yr un o Lywodraeth Cymru a San Steffan, gyda’r awdurdodau lleol yn cyfrannu o leiaf £120 miliwn dros gyfnod y cytundeb.
Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywedodd Carwyn Jones y bydd yn “hwb economaidd enfawr” i’r ardal ac yn “arwydd o hyder” yn y brifddinas.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod yn “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth ac yn dystiolaeth bellach bod llywodraeth y DU yn blaenoriaethu Cymru a bod y Ceidwadwyr yn cyflawni i gymunedau ledled y wlad.”
Cafodd Bargen Ddinesig Caerdydd ei arwyddo gan Carwyn Jones, Ysgrifennydd Cartref Cymru, Stephen Crabb a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands mewn seremoni yn swyddfa cwmni Admiral yng Nghaerdydd.
Roedd arweinwyr yr awdurdodau lleol sef, Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg yno’n arwyddo hefyd.
Yn dilyn arwyddo’r cytundeb, mae’n rhaid i bob awdurdod lleol sy’n rhan ohono ei gadarnhau yn swyddogol cyn iddo fod yn weithredol.
Sefydlu Cabinet Rhanbarthol
Mae’r cytundeb yn cynnwys sefydlu Cabinet Rhanbarthol i’r 10 awdurdod lleol, a fydd yn golygu eu bod yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ac yn defnyddio’r un adnoddau.
Mae disgwyl i benderfyniadau yn ymwneud â’r system Fetro newydd gael eu gwneud gan y Cabinet hwn, ymhlith penderfyniadau eraill yn ymwneud â’r rhanbarth.
Fel rhan o’r cytundeb, mae’r awdurdodau lleol wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ragor o reolaeth a hyblygrwydd ariannol, ond dim ond “ystyried hyn” mae’r llywodraeth yn ei wneud ar hyn o bryd.