Mae ymgyrchydd Llafur, sydd wedi bod ynghanol ffrae ynglŷn â sylwadau gwrth-semitig, wedi cael ei gwahardd o’r blaid tros gyfnod ymchwiliad i’r mater.
Roedd y blaid wedi ymchwilio i weithgareddau ar-lein Vicki Kirby yn 2014, ar ôl iddi anfon sawl neges ar Twitter yn awgrymu bod Adolf Hitler yn “Dduw Seionydd” a bod gan Iddewon “drwynau mawr.”
Er hyn, dim ond rhybudd gafodd yr ymgyrchydd bryd hynny a daeth i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf ei bod wedi cael ei phenodi’n is-lywydd cangen Woking o’r blaid Lafur.
Gwahardd
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid ei bod “wedi cael ei gwahardd o’r Blaid Lafur wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.”
Roedd Llafur wedi dweud yn y gorffennol na fyddai’n ymchwilio eto i’r mater.
Yn ôl llefarydd ar ran Jeremy Corbyn, doedd gan yr arweinydd “ddim rhan o gwbl” yn y penderfyniad ac mai’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol sy’n rheoli’r broses.
Cododd y ffrae ar ôl i un o aelodau cabinet yr wrthblaid, Luciana Berger, gael ei thargedu â negeseuon casineb ar Twitter am ddweud ei bod yn mynd i gynhadledd ryngwladol gwrth-semitiaeth ym Merlin.
Dywedodd Jeremy Corbyn fod yr ymddygiad tuag ati wedi bod yn “ffiaidd”.