Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i asesu’r cymorth y mae llenyddiaeth a’r diwydiant cyhoeddi yn ei gael yng Nghymru.
Fe fydd cynrychiolwyr o Brifysgolion Cymru, ymgynghorwyr ynghyd ag awduron annibynnol yn rhan o’r panel adolygu.
Fe fyddan nhw’n asesu gwaith Llywodraeth Cymru wrth gefnogi llenyddiaeth a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Daw hyn wedi cyfnod o ansicrwydd yn y byd cyhoeddi wedi i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol ddechrau’r flwyddyn gan beidio â chyflwyno’r toriadau arfaethedig o 10.6% i gyllideb y Cyngor Llyfrau.
‘Newidiadau mawr’
Fe fydd y panel yn cyhoeddi eu hadroddiad cyntaf ym mis Medi, gan dalu sylw i’r cymorth sy’n cael ei gynnig i ddatblygiadau digidol o fewn y diwydiant cyhoeddi.
Fe fyddan nhw hefyd yn archwilio’r cymorth sy’n cael ei ddarparu i ardaloedd sydd o dan anfantais.
Fe groesawodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates y cyhoeddiad gan ddweud: “Mae nifer o newidiadau mawr wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yn enwedig o ran datblygiadau digidol.
“Mae’n rhaid inni fod yn ffyddiog ein bod yn cwrdd â’n hamcanion o ran cefnogi’r diwydiant.”
Fe ychwanegodd ei fod hefyd am sicrhau cefnogaeth i bobl mewn ardaloedd sydd o dan anfantais.
“Mae cael gafael ar lenyddiaeth a chael y cyfle i’w mwynhau yn cynnig cymaint o fanteision. Mae’r manteision hynny’n amrywio o roi hwb i sgiliau llenyddol i wella cyrhaeddiad ac mae’n hanfodol bwysig bod ein buddsoddiad newydd yn targedu’r amcanion sy’n cael blaenoriaeth.”
‘Arwydd pellach’
Un gwasg fu’n ymgyrchu’n erbyn y posibiliadau o gwtogi cyllideb y Cyngor Llyfrau oedd gwasg y Lolfa, sydd heddiw’n croesawu’r cyhoeddiad am sefydlu panel adolygu.
Fe ddywedodd Garmon Gruffudd ei fod yn “gobeithio ei fod yn arwydd pellach o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r byd llyfrau ac i ddarllen.”
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael gweld canlyniadau’r adolygiad ac yn gobeithio y bydd yn arwain at ragor o gyhoeddi Cymraeg ym mhob fformat.”
Aelodau’r Panel
Fe gaiff yr adolygiad ei gadeirio gan yr Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae’r aelodau eraill yn cynnwys:
- yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth;
- John Williams, nofelydd, colofnydd a threfnydd Gŵyl Talacharn;
- Pippa Davies, nofelydd, ymgynghorydd a golygydd gwefannau;
- Martin Rolph, ymgynghorydd a ymgymerodd ag adolygiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i lyfrau yn 2014.