Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Huw Chiswell a’r Band fydd yn perfformio ar lwyfan y Maes yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar y nos Wener, un o nosweithiau mwya’ poblogaidd yr ŵyl.

Dyma fydd y tro cyntaf mewn bron i bum mlynedd i Huw Chiswell a’r band berfformio gyda’i gilydd.

“Mae cael cyfle i berfformio gyda band llawn yn eithaf anghyffredin erbyn heddiw, ac rwy’n edrych ymlaen at bawb ddod nôl at ei gilydd ar y llwyfan,” meddai’r cerddor a’r cyfansoddwr sy’n adnabyddus fel artist unigol ac aelod o’r grwpiau Y Crach a’r Trwynau Coch.

‘Coroni wythnos yr Eisteddfod’

Mae’r slot nos Wener wedi datblygu’n un o uchafbwyntiau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf, gydag Edward H Dafis a Bryn Fôn a’r band wedi serennu’n ystod y slot yn ddiweddar.

Fe esboniodd Huw Chiswell nad ydy’r band wedi penderfynu beth fydd arlwy’r noson eto, ond fe fydd “cymysgedd o’r hen ffefrynnau a chaneuon newydd.”

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at y noson yn barod – mae hon yn slot gyda thipyn o draddodiad erbyn hyn, a gobeithio y bydd nos Wener eleni’n ddathliad i goroni wythnos yr Eisteddfod.”

‘Adnabyddus i ddysgwyr’

Fe ychwanegodd y cerddor sy’n wreiddiol o Gwm Tawe ei fod yn gobeithio y bydd ei ganeuon yn denu dysgwyr o ardal y Fenni i ymuno â’r gig ar y maes.

“Mae nifer o’r caneuon cynnar yn adnabyddus i ddysgwyr gan eu bod nhw’n cael eu defnyddio ar rai o’r cyrsiau, felly rwy’n gobeithio y daw carfan fawr atom i fwynhau noson yn yr Eisteddfod ar ôl clywed rhai o’r caneuon wrth ddysgu Cymraeg.”

Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau  eleni rhwng 29 Gorffennaf – 6 Awst.