Ar drothwy ei phen-blwydd yn 25 oed, mae Gwobrau BAFTA Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ehangu ei meini prawf ar gyfer yr enwebiadau eleni i gynnwys cynyrchiadau ledled Prydain.
Yn hytrach na galw am geisiadau gan bobol o Gymru sy’n gweithio ar gynyrchiadau Cymreig yn unig, bydd y digwyddiad yn gwobrwyo pobol o Gymru sy’n gweithio ar gynyrchiadau y tu allan i Gymru hefyd.
Yr un yw’r nod, yn ôl Hannah Raybould, cyfarwyddwr BAFTA Cymru, sef “dathlu talent Gymreig” ond ei bod efallai’n bryd hefyd i “fod yn fwy eang o ran cydnabod talentau pobol o Gymru yn y Deyrnas Unedig ar y cyfan, nid yng Nghymru yn unig.”
O’r 28 categori i gyd, bydd 16 categori crefft a pherfformio yn cael eu hehangu i gynnwys pobol o Gymru sy’n gweithio ar gynyrchiadau ledled Prydain.
Dywedodd Hannah Raybould wrth golwg360 y bydd ehangu nifer y bobol sy’n gallu cael eu henwebu am BAFTA Cymru eleni yn golygu eu bod yn “dathlu beth mae’r Cymry yn ei gyfrannu i’r cyfryngau ym Mhrydain.”
‘Dim anfantais’ i gynyrchiadau Cymraeg
Ac ni fydd mwy o enwebiadau yn golygu bod cynyrchiadau Cymraeg dan anfantais meddai, gan fod y gwobrau “wedi bod yn dathlu cynyrchiadau Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd” o hyd.
Ychwanegodd fod rhaglenni fel Y Gwyll/Hinterland, sydd bellach yn cael ei dangos ar Netflix yn America, yn dangos bod “cynyrchiadau Cymraeg yn gallu teithio.”
“Y peth pwysig i ni yw dathlu’r holl ystod o waith sy’n dod o Gymru a dathlu’r holl bobol wahanol sy’n gweithio yn y cyfryngau ac sy’n dod â sylw i ni fel gwlad”.
Er bod yr enwebiadau yn ehangu eleni, mae nifer yr enwebiadau sy’n cyrraedd y gwobrau yng Nghymru yn parhau i fod yn iach, gyda niferoedd tebyg i’r hyn sy’n dod i wobrau Llundain a’r Alban.
Dydy’r gwobrau ddim am ddatgelu faint sy’n eu cyrraedd serch hynny, gan fod y “niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.”
Blwyddyn arbennig
Cafodd BAFTA Cymru ei sefydlu bron i 30 mlynedd yn ôl yn 1987 ac ers 25 mlynedd mae’r gwobrau wedi bod yn weithredol.
“Rydyn ni wedi cael ein sefydlu fel digwyddiad a noson yn y calendr,” meddai Hannah Raybould wrth ddisgrifio pwysigrwydd y gwobrau erbyn hyn.
Dywedodd fod nifer y gwobrau sy’n cael eu rhoi wedi “ehangu” ers y dechrau, a bod y maes creadigol yng Nghymru wedi tyfu’n sylweddol.
Mae’r elusen hefyd wedi sefydlu Gwobrau Gemau, sydd yn ei phedwaredd flwyddyn bellach, sy’n dathlu gemau, apiau a phob math o dechnolegau newydd sydd wedi datblygu o Gymru.
“Mae hyn,” medd Hannah Raybould, “yn dangos bod Cymru wedi datblygu ei maes creadigol i fod yn fwy na ffilm a theledu yn unig,”
Dros y flwyddyn sydd i ddod, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu pen-blwydd y gwobrau, gan gynnwys sefydlu sinema ar faes yr Eisteddfod Genedlaethola chyflwyno’r darlledwr newyddion, Huw Edwards, fel ei llysgennad.
“Mae’n siawns i edrych yn ôl ar bwy sydd wedi ennill gwobrau, lle maen nhw erbyn hyn a gweld beth sydd wedi datblygu dros y 25 mlynedd ddiwethaf,” meddai Hannah Raybould.
Bydd gwobrau BAFTA Cymru yn digwydd ar 2 Hydref eleni ac mae’r enwebiadau’n cau ar 26 Ebrill.