Fe fydd ychwanegiad newydd i faes yr Eisteddfod eleni
Fe fydd sinema ar gael ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni am y tro cyntaf eleni ar ôl i nifer o sefydliadau, gan gynnwys BAFTA Cymru, ddod at ei gilydd i’w sefydlu.
Mae disgwyl i’r ‘Sinemaes’, fydd wedi’i leoli ym mhentref drama’r Maes, ddangos ffilmiau newydd gan Ffilm Cymru Wales ac S4C.
Fe fydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gweithdai, yn ogystal â gweld cynnwys o’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain.
“Dyma ddatblygiad cyffrous yn yr Eisteddfod, a bydd yn sicr yn ychwanegiad gwerthfawr at y Pentref Drama,” meddai prif weithredwr y Brifwyl, Elfed Roberts.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda phawb yn y misoedd i ddod i sicrhau llwyddiant y prosiect yn Nhrefynwy a’r Cylch.”
Annog diddordeb newydd
Bu BAFTA Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ffilm Cymru, Chapter, Into Film, Ffilm Cymru Wales, y Gymdeithas Deledu Frenhinol, Sgrîn Cymru, BFI Net.Work, ITV Cymru Wales, S4C a Theledwyr Annibynnol Cymru er mwyn sefydlu’r sinema ar y maes.
Y gobaith, yn ôl Cyfarwyddwr BAFTA Cymru Hannah Raybould, fydd ceisio annog pobol ifanc i ymddiddori yn y maes.
“Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru – sef yr ŵyl ddiwylliannol deithiol flynyddol sy’n denu 150,000 o ymwelwyr yn ystod 6 diwrnod – yn dathlu’r maes ffilmiau, cyfryngau a gemau yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.
“Wrth i BAFTA ddathlu 25 mlynedd o Wobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, bydd y rhaglen yr ydym yn ei chynllunio yn dathlu enillwyr blaenorol BAFTA Cymru ac yn annog pobl ifanc i ystyried dyfodol yn y diwydiant cyfryngau creadigol.”
Mae disgwyl i fwy o fanylion am arlwy’r babell ‘Sinemaes’ gael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.