Y tonfyrddio yn Glass Butter Beach
Bydd gŵyl tonfyrddio yn dychwelyd i ogledd Cymru am y pedwerydd tro eleni, gyda gwobr o £10,000 yn cael ei roi i’r tonfyrddwyr gorau.
Dyma’r tro cyntaf i ŵyl Glass Butter Beach gynnal cystadleuaeth o’r fath, a’r gobaith yw denu tonfyrddwyr ledled y byd i draethau Llanbedrog ac Abersoch ym mis Awst.
Yn ogystal â chystadleuaeth y ‘Quadra Crown’ bydd yr ŵyl yn cynnwys artistiaid cerddorol, gyda’r rhain yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 17 Mawrth a thocynnau yn mynd ar werth am 9.00yb y diwrnod canlynol.
Yn y gorffennol, mae artistiaid fel Professor Green, Soul II Soul, Roger Sanchez, Wilkinson a Less Than Jake wedi perfformio yno.
Gŵyl wedi ‘tyfu’n sylweddol’
Mae gwyliau tonfyrddio wedi bod yn boblogaidd yng ngogledd orllewin Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda Wakestock yn arfer bod y digwyddiad mwyaf o’i math yn Ewrop am gyfnod.
“Rydym yn gyffrous tu hwn am y digwyddiad eleni. Mae Glass Butter Beach wedi tyfu’n sylweddol yn ei maint a’i henw da dros y blynyddoedd diwethaf ac mae 2016 am fod yn fwy ac yn well nag erioed,” meddai sylfaenydd yr ŵyl, Mark Durston.
“Mae gennym dalent anhygoel i gyhoeddi ynghyd â chwaraeon gwych, gan gynnwys y Quadra Crown cyntaf erioed, sy’n ddigwyddiad rhyngwladol newydd sbon.”
Bydd yr ŵyl yn digwydd rhwng 19 a 21 o Awst eleni, ac mae rhagor o fanylion ar eu gwefan.