Angela Merkel
Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud ei bod yn parhau’n argyhoeddedig fod angen datrysiad Ewropeaidd ar argyfwng y ffoaduriaid, a hynny ar ôl noson ‘anodd’ o etholiadau yn y wlad.

Mae  Angela Merkel wedi cydnabod fod materion yn ymwneud â ffoaduriaid wedi dominyddu etholiadau tair talaith, a bod nifer o bleidleiswyr yn teimlo nad oes datrysiad boddhaol ar gael eto.

Gwelwyd y blaid genedlaethol, gwrth-ymfudo, sef Amgen ar gyfer yr Almaen (AfD) yn ymwthio i mewn i gorff deddfwriaethol tair talaith ddydd Sul.

Maen nhw wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn croeso’r Canghellor ar gyfer mewnlifiad mawr o ffoaduriaid y llynedd.

Yn y cyfamser, fe gollodd plaid Angela Merkel mewn dwy dalaith, a hynny i gystadleuwyr canol-asgell chwith sydd wedi cefnogi ei pholisïau.

Er hyn, mae Angela Merkel wedi cyhoeddi na fydd yn newid cyfeiriad gan ddweud:

“Rwy’n argyhoeddedig, a chafodd hynny ddim o’i gwestiynu heddiw, ein bod angen datrysiad Ewropeaidd a bod angen amser ar y datrysiad hwnnw.”