Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn wedi rhoi sêl bendith i atal y cynllun ‘Hawl i Brynu’ ar yr ynys er mwyn sicrhau bod digon o dai fforddiadwy ar gael i bobol sydd eu hangen.

Ynys Môn yw un o’r cynghorau cyntaf yng Nghymru i gymryd cam tuag at y cyfeiriad hwn, ac fe fydd yn paratoi cais i Lywodraeth Cymru i ddiddymu’r cynllun am gyfnod o bum mlynedd.

Mae’r cynllun ‘Hawl i Brynu’ yn galluogi i denantiaid cymwys tai’r cyngor a thai cymdeithasol brynu eu tai ar ostyngiad o £8,000.

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai, Shan Lloyd Williams: “Fe ŵyr pawb bod prinder o dai fforddiadwy trwy Gymru gyfan a gweddill y DU. Mae pob eiddo y mae’r Cyngor yn ei werthu trwy’r cynllun ‘Hawl i Brynu’ yn lleihau ein gallu i ddarparu tai cymdeithasol fforddiadwy i gwrdd ag angen lleol.”

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Abertawe eisoes wedi cael caniatâd i ddod â’r cynllun i ben yn eu siroedd nhw.

 Adeiladu mwy o dai cyngor

Mae cynllun ar y gweill hefyd i ddechrau adeiladu mwy o dai cyngor ym Môn rhwng y flwyddyn hon a 2046, gyda £2m yn cael ei buddsoddi i’r cynllun eleni, gan arwain at “o leiaf” 500 o dai cyngor  newydd ar yr ynys mewn 30 o flynyddoedd.

Pentraeth, Llanfaethlu, Y Fali a Chaergybi yw’r safleoedd sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer adeiladu’r tai newydd.

Dywedodd y deilydd portffolio tai ar y cyngor, y Cynghorydd Aled Morris Jones, mai’r nod yw “cynyddu nifer yr eiddo rhent fforddiadwy ar yr ynys.”

“Mae yna gyfnod cyffrous o’n blaenau o ran tai ym Môn. Mae’r rhain yn gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu stoc tai’r Cyngor a chreu rhagor o dai fforddiadwy ar gyfer trigolion Môn,” meddai.

“Bydd y rhaglen adeiladu newydd yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i ni o ran cynyddu stoc tai, galluogi buddsoddiad yn ein cartrefi ac o fudd wrth adfywio’n cymunedau.”

Ymgynghoriad

Mae’r Cyngor Sir, ar hyn o bryd, yn berchen ar, ac yn rheoli, ychydig dros 3,800 eiddo ledled Ynys Môn.

Dywedodd y Cyngor fod yr ymgynghoriad â thenantiaid y Cyngor wedi cael 540 o ymatebion, gyda 72% o’r rhai a ymatebodd yn ystyried atal ‘Hawl i Brynu’ fel “cam positif” wrth geisio cynyddu nifer yr eiddo rhent fforddiadwy ym Môn.