Boris Johnson
Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi gwrthdaro â Boris Johnson yn dilyn honiad y byddai’n ‘ragrith’ petai Barack Obama yn ymyrryd â’r ddadl tros refferendwm Ewrop.
Mae Philip Hammond wedi amddiffyn hawl arweinwyr o dramor i siarad yn gyhoeddus am eu gobeithion ar gyfer y DU i barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ai peidio.
Daw hyn wedi i Boris Johnson ysgrifennu yn ei golofn yn y Daily Telegraph y byddai’n “ddarn o ragrith gwarthus ac afresymol” pe bai arweinydd yr Unol Daleithiau yn mynegi cefnogaeth i’r DU barhau yn yr UE.
Er gwaetha’r honiadau, mae Stryd Downing wedi gwrthod ymateb i adroddiadau y bydd yr Arlywydd yn teithio i’r DU fis nesaf i gyflwyno’r achos i bleidleiswyr Prydain.
‘Faint o werth…’
Wrth siarad mewn cyfarfod ar gyfer Gweinidogion tramor ym Mrwsel, fe ddywedodd Philip Hammond, “dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod yn clywed gan bobol yn yr Anglosphere – nid yr Arlywydd Obama yn unig ond arweinwyr Awstralia, Seland Newydd, Canada – a’r tu hwnt gan gynnwys arweinwyr Siapan a China hefyd.”
“Gadewch inni glywed faint o werth maen nhw’n rhoi ar aelodaeth Prydain o’r UE, fel bod pobol Prydain yn cael gwybod yn iawn yn y ddadl hon a ddim yn cael eu twyllo gan awgrymiadau am y croeso y gallai fod yn ein haros gan ein partneriaid o wledydd sy’n siarad Saesneg o amgylch y byd petaem yn gadael yr UE.”
‘Llygaid ac yn glustiau..’
Mae Boris Johnson wedi amddiffyn ei safiad gan ddweud fod galwad yr Unol Daleithiau i Brydain aros yn yr UE yn “baradocs”.
Fe ddywedodd fod yr Unol Daleithiau am i Brydain aros ac integreiddio’n fwy o fewn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn bod “yn llygaid ac yn glustiau iddyn nhw, ac i fod yn gefn iddyn nhw ar faterion fel diogelwch seiber neu ddatblygiad y we.”
“Mae hynny’n wych, ac rwy’n meddwl ei fod yn ddadl bwysig. Fodd bynnag, dw i’n meddwl bod dylanwad y DU yn y pethau hyn yn medru cael eu mynegi mewn nifer o ffyrdd a fforymau eraill.
“Dw i’n tynnu’r sylw at y paradocs ein bod yn cael ein hannog i lawr y llwybr at greu Undeb Ewropeaidd ffederal gan wlad sydd yn hollol yn amddiffyn eu sofraniaeth ei hun ac yn gwrthod rhannu pwerau â neb arall.”
Fe ychwanegodd Maer Llundain: “Ni yw’r bumed economi fwyaf, a’r hyn rydym yn mynegi yn yr ymgyrch i adael yw mai dyma ein cyfle ni i sicrhau cytundebau masnach rydd o gwmpas y byd ac i fynd ymlaen gydag agwedd wahanol, well i Brydain, well i Ewrop.”
Stryd Downing
Mae Stryd Downing wedi gwrthod dweud a fydd David Cameron yn croesawu ymyriad arall gan Arlywydd yr UDA ym mis Ebrill.
Yn ôl llefarydd, “Mae’r Prif Weinidog yn canolbwyntio ar fynd allan o gwmpas y wlad i gyflwyno ei achos pam ddylai’r DU aros yn rhan o UE wedi’i ddiwygio.”
Fe ddywedodd y bydd “pobol eraill yn cyflwyno eu barn, a dewis pobol Prydain yw a ydyn nhw’n mynd i wrando arnyn nhw ai peidio, ac fe fyddan nhw’n penderfynu trostynt eu hunain.”