Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Bydd gweithwyr dur Tata ym Mhort Talbot yn cael gwybod dros y dyddiau nesaf pa rai o’r 750 o weithwyr fydd yn colli eu swyddi.

Does dim gwybodaeth wedi dod i law hyd yn hyn ynglŷn â manylion y diswyddiadau a dywedodd Tata nad oedd am wneud sylw ar faterion unigol.

Dywedodd yr undeb Community ei fod yn ymwybodol y bydd y diswyddiadau yn cael eu gwneud “dros yr wythnos nesaf” ond nad ydyn nhw wedi siarad ag unrhyw un eto sydd wedi colli ei swydd.

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd cwmni Tata y bydd 750 o weithwyr yn colli eu swyddi yn y safle ym Mhort Talbot.

Mae’r newyddion wedi cael ei ddisgrifio fel “ysgytwad i’r ardal” ac mae galwadau cynyddol ar Lywodraethau Cymru a San Steffan i wneud mwy i achub y diwydiant dur ym Mhrydain.

Bydd 300 o swyddi eraill hefyd yn cael eu colli yn Llanwern ger Casnewydd, Trostre yn Llanelli, Corby a Hartlepool.