Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cyhoeddi eu cynlluniau i gyflwyno gofal plant am ddim i rieni sy’n dychwelyd i’w gwaith wedi i’w cyfnod rhieniol o naw mis ddod i ben.

Petai’r blaid yn dod i rym wedi etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, y bwriad yw cynnig 10 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i’r holl rieni sy’n gweithio o ddiwedd eu cyfnod gofal rhieniol  tan fod y plentyn yn dair oed, 38 wythnos y flwyddyn.

Nid oes darpariaeth gofal plant yng Nghymru ar gyfer plant rhwng 0 a 2 oed ar hyn o bryd, ac mae’r blaid yn pwysleisio fod hwn yn “gynnig unigryw.”

‘Dechrau’n Deg’

Ar hyn o bryd, mae teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn cael cynnig gofal plant am ddim drwy gynllun Llywodraeth Cymru.

Ond, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw am gael gofal plant am ddim i holl deuluoedd sy’n byw yng Nghymru ac sydd â phlant hyd at dair i bedair oed.

Fel rhan o gynllun ‘Economi Cyfle’ y blaid, fe fyddan nhw hefyd yn cyflwyno mwy o gyfrifoldebau ar awdurdodau lleol i ddarparu addysg gynnar wedi ei gyllido am bymtheg awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn, wedi i’r plentyn droi’n dair oed.

‘Rhan allweddol’

“Mae gofal plant cyffredinol ac am ddim yn rhan allweddol o’n Economi Cyfle,” meddai Aled Roberts, Llefarydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

 

“Rydym yn credu mewn annog uchelgeisiau a darparu cyfle i bawb, beth bynnag yw eu cefndir.

“Mae twll du yng nghefnogaeth y llywodraeth ar gyfer teuluoedd sy’n dod at ddiwedd eu cyfnod rhieniol tan y bydd y plentyn yn cael lle wedi ei sybsideiddio,” meddai.

Fe ychwanegodd na ddylai “cyfle gael ei bennu ar sail loteri’r cod post.”

“Fe fyddwn ni’n darparu ffordd gyson i bawb gan gynnig gofal plant cyffredinol i holl deuluoedd gan sicrhau bod yr oriau sydd ar gael yn fwy hyblyg na’r hyn sydd ar gynnig ar hyn o bryd.”