Safle'r ymosodiad yn Ankara, Twrci ddydd Sul
Oriau wedi’r ymosodiad bom yn Ankara, mae lluoedd arfog Twrci wedi cynnal cyrchoedd awyr yn erbyn gwrthryfelwyr Cwrdaidd yng ngogledd Irac.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion Anadolu, mae naw o awyrennau F-16 a dau F-4 wedi cynnal cyrchoedd ar 18 o safleoedd y Kurdistan Workers’ Party, neu’r PKK, yng ngogledd Irac. Mae un o’r safleoedd yn cynnwys mynyddoedd y Qandil lle credir bod arweinydd y grŵp wedi’i leoli.
Yn ogystal, mae 38 o wrthryfelwyr PKK honedig wedi eu harestio gan yr heddlu yn dilyn cyrchoedd yn ninas ddeheuol Adana yn Nhwrci heddiw a chafodd 15 o wrthryfelwyr Cwrdaidd honedig eu harestio yn Istanbwl.
Daw’r cyrchoedd awyr ar ôl i 37 o bobl gael eu lladd a 125 eu hanafu mewn ymosodiad gan hunan-fomwyr ger arosfan bysiau yn y brifddinas Ankara bnawn dydd Sul.
‘Codi pryderon’
Fe ddaeth y ffrwydrad ddydd Sul wrth i luoedd diogelwch Twrci fwriadu lansio cyrchoedd ar raddfa fawr yn erbyn gwrthyryfelwyr milwriaethus mewn dwy dref Cwrdaidd, sef Yuksekova ger ffin Irac, a hefyd Nusaybin sydd ar y ffin â Syria.
Fe wnaeth y fyddin leoli nifer fawr o danciau ger y trefi wrth i’r gorchmynion cyrffyw gael eu cyhoeddi.
Mae Twrci wedi cyflwyno gorchmynion cyrffyw mewn sawl lleoliad yn y de ddwyrain ers mis Awst er mwyn mynd i’r afael a gwrthryfelwyr sy’n gysylltiedig â’r PKK a oedd wedi codi baricedau, cloddio ffosydd a phlannu ffrwydron.
‘Sefydliad brawychol’
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth lluoedd arfog Twrci ddod â gweithdrefn tri mis i ben yn erbyn gwrthryfelwyr yn yr ardal Sur hanesyddol, sef Diyarbakir – y ddinas fwyaf yn y wlad sydd gan mwyaf yn Gwrdaidd.
Ar ddydd Sul, fe wnaeth yr awdurdodau lacio’r cyrffyw ar rai o’r strydoedd ac un gymuned o Sur, ond roedd y gwarchae dros brif ardaloedd yr ardal dal yn eu lle.
Mae’r PKK wedi eu dynodi yn sefydliad brawychol gan Dwrci, yr UDA a’r Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth proses heddwch rhwng y PKK a Thwrci ddymchwel ym mis Gorffennaf, gan ailgynnau’r frwydr sydd wedi dwyn degau o filoedd o fywydau ers 1984.