Tayyip Erdogan
Mae Arlywydd Twrci Tayyip Erdogan wedi rhoi addewid i orchfygu brawychiaeth yn dilyn ymosodiad gan hunan-fomiwr yn y brifddinas a oedd wedi lladd o leiaf 37 o bobl ac anafu 125 o bobl eraill.
Mae Tayyip Erdogan wedi galw am undod cenedlaethol ac wedi dweud y bydd Twrci yn defnyddio ei hawl i amddiffyn ei hun er mwyn atal ymosodiadau yn y dyfodol.
Mae Prif Weinidog Twrci Ahmet Davutoglu wedi gohirio ymweliad a Gwlad yr Iorddonen yn dilyn yr ymosodiadau bom yn Ankara yn hwyr bnawn dydd Sul.
Roedd y bom car wedi targedu pobl ger arosfan bws yng nghanol Ankara, gan ladd dau berson oedd yn cael eu hamau o osod y bom, meddai swyddog ar ran y llywodraeth.
Bu farw 30 o bobl yn y fan a’r lle ac roedd saith o bobl eraill wedi marw yn yr ysbyty yn ddiweddarach. Mae 19 o’r rhai sydd wedi’u hanafu mewn cyflwr difrifol.
Mae’r gwasanaethau diogelwch yn amau mai gwrthryfelwyr Cwrdaidd oedd yn gyfrifol am gynnal yr ymosodiad, ond mae’n debyg nad oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb ar hyn o bryd.
Dywedodd Prif Weinidog Prydain David Cameron ei fod wedi’i “arswydo” o glywed am yr ymosodiad gan ychwanegu bod ei “feddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio.”