Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i weithredu er mwyn sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia a’r rheini sy’n gofalu amdanyn nhw yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Daw galwad Sarah Rochira yn dilyn cyhoeddi adroddiad newydd sy’n dweud bod diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth am ddementia o hyd, er gwaetha’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn y blynyddoedd diweddar.
Mae hyn yn wir ymhlith gweithwyr proffesiynol a’r gymuned ehangach, meddai’r adroddiad.
Hefyd, yn aml iawn, nid yw gwasanaethau dementia’n ddigon hyblyg i fodloni anghenion y bobl sy’n byw gyda dementia a’r rheini sy’n gofalu amdanyn nhw yn effeithiol.
Yn ogystal â hyn, mae diffyg cydweithredu rhwng gwasanaethau yn golygu anawsterau a rhwystrau diangen i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Hefyd, mae ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael yn amrywio’n helaeth yng Nghymru.
‘Hanfodol gwrando ar leisiau’r bobl’
Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Mae dementia yn salwch dinistriol, ac mae bron yn amhosib dychmygu ei effaith. Dyna pam ei bod yn hanfodol gwrando ar leisiau’r bobl sydd wedi tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o heriau maent wedi’u hwynebu wrth gael gafael ar wasanaethau, cymorth, gwybodaeth a chyngor, sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau.
“Mae’r adroddiad hwn yn nodi’n glir pa gamau y mae angen i’r rheini sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus eu cymryd er mwyn sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia yn gallu mwynhau’r ansawdd bywyd gorau am gyn hired â phosib. Bydd cyflawni’r newid hwn yn gwneud lles i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a bydd hefyd o fudd i’r pwrs cyhoeddus.”
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o gamau gweithredu y mae gofyn eu cyflawni.
Mae hyn yn cynnwys gwaith i sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn
- fwy cefnogol o ddementia a bod eu harferion gwaith yn adlewyrchu anghenion y bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr;
- hyfforddiant i staff i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth a dealltwriaeth i ymateb i anghenion unigolion sy’n byw gyda dementia mewn modd priodol a sensitif, sy’n gwarchod eu hurddas a’u parch ac yn achosi cyn lleied o ofid â phosib;
- a gwell cymorth ar ôl cael diagnosis, gan gynnwys un pwynt cyswllt i roi gwybodaeth a chyngor am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael, ac y mae modd cael gafael arnynt pan fo angen.
Bydd y Comisiynydd yn ysgrifennu at arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn gofyn am sicrwydd y byddan nhw’n cyflawni’r newidiadau “sy’n angenrheidiol ar ran pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.”
‘Stori bwerus’
Age Cymru a gynhaliodd y gwaith ymchwil sy’n sail i’r adroddiad hwn. Bu Age Cymru yn cyfweld pobl sy’n byw gyda dementia ledled Cymru, yn ogystal â’r rheini sy’n gofalu amdanynt, yn ogystal â chynnal nifer o sesiynau grŵp ffocws ar ran y Comisiynydd.
Dywedodd Ian Thomas, Prif Weithredwr Age Cymru: “Mae dementia yn salwch creulon yn aml iawn, a hynny i’r sawl y mae dementia’n effeithio arno ac i bawb arall agos ato.
“Wrth gyflawni’r gwaith ymchwil ar gyfer Dementia – Mwy na dim ond Colli’r Cof, roedd yn fraint cael clywed safbwyntiau a phrofiadau pobl gyda dementia a’u gofalwyr o bob cwr o Gymru.
“Roedd yr hyn roeddem yn ei glywed yn stori bwerus am yr heriau sy’n wynebu nifer o bobl y mae dementia’n effeithio arnynt, a’r gwelliannau y mae gofyn i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau eu gwneud.”
‘Newid angenrheidiol’
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Drwy wrando ar eu lleisiau a chymryd y camau sydd wedi’u nodi yn fy adroddiad er mwyn cyflawni’r newid angenrheidiol, mae yma gyfle gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus wneud pethau’n iawn, gan drawsnewid system nad yw, yn anffodus, hyd yma, wedi bod yn cyrraedd y safonau uchel y dylem eu disgwyl ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’r rheini sy’n gofalu amdanynt.”