George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne yn cwblhau cynlluniau ar gyfer rhagor o doriadau mewn gwariant a fydd yn golygu toriadau ar draws nifer o adrannau’r llywodraeth.

Mae’r Canghellor yn mynnu bod yn rhaid “gweithredu nawr er mwyn osgoi talu yn ddiweddarach” wrth iddo awgrymu y bydd gwasgfa ariannol arall yn ei Gyllideb.

Mae’n rhaid gwneud arbedion o 50c ym mhob £100 mae’r Llywodraeth yn ei gwario erbyn 2020, meddai Osborne.