Mae dyn 51 oed wedi cael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.

Cafodd ei daro gan gar tra’n croesi’r ffordd cyn i’r gyrrwr yrru i ffwrdd ar Ffordd Malpas ddydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.