Marler wedi galw Lee yn gypsy boy yn Twickenham ddydd Sadwrn
Mae prop Lloegr, Joe Marler wedi ymddiheuro wrth brop Cymru, Samson Lee am ei sarhau ar sail y ffaith ei fod yn aelod o deulu o sipsiwn Romani.
Cafodd y sylwadau eu clywed ar feicroffôn y dyfarnwr Craig Joubert.
Mae trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad.
Dywedodd yr RFU mewn datganiad fod hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones wedi atgoffa Marler o’i gyfrifoldebau fel chwaraewr.
Wrth ymateb, dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad eu bod nhw’n “siomedig” ynghylch y sylwadau, ond eu bod yn croesawu’r ymddiheuriad.
Fe allai Marler ganfod ei hun mewn dŵr poeth gyda’r comisiynydd yn dilyn yr ornest fawr yn erbyn Cymru yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Daeth i’r amlwg fod Marler hefyd wedi taro prop arall Cymru, Rob Evans gyda’i benelin.
Daeth yr ergyd i wyneb Evans wrth i Dan Cole groesi am gais i Loegr yn yr hanner cyntaf, ond nid oedd y dyfarnwr Craig Joubert wedi gweld y digwyddiad.
Ond mae sylwadau Marler wedi denu cryn dipyn o sylw ar wefannau cymdeithasol.
Nid dyma’r tro cyntaf i sylwadau sarhaus gael eu clywed yng nghartref tîm rygbi Lloegr.
Yn 2014, cafodd ymchwiliad ei gynnal yn dilyn adroddiadau bod cefnogwr yn y dorf wedi anelu sylwadau homoffobig at y dyfarnwr o Fynyddcerrig, Nigel Owens.
Cafodd yr honiadau eu gwneud gan gefnogwr mewn llythyr yn y wasg Brydeinig, ac fe ddywedodd yr RFU, y corff sy’n rheoli rygbi yn Lloegr, eu bod nhw’n trin honiadau o’r fath yn ddifrifol.
Ond dydy Golwg360 ddim wedi gallu cael ymateb gan yr RFU nac Undeb Rygbi Cymru hyd yma.
Mae modd gweld y digwyddiad ar Twitter.