Andreas Lubitz wedi anwybyddu cyngor i weld meddyg
Roedd meddyg wedi cyfeirio peilot Germanwings, Andreas Lubitz at seiciatrydd bythefnos cyn iddo lywio awyren i ochr mynydd yn yr Alpau fis Mawrth diwethaf, medd adroddiad newydd i’r digwyddiad.

Cafodd 150 o bobol eu lladd wrth i’r awyren daro ochr mynydd yn ystod taith o Barcelona i Dusseldorf.

Dywed yr adroddiad nad oedd nifer o feddygon wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau am gyflwr meddwl Lubitz yn yr wythnosau cyn y digwyddiad.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd modd, felly, i’r awdurdodau atal y gwrthdrawiad.

Daeth ymchwilwyr i’r casgliad fod Lubitz wedi taro’r mynydd yn fwriadol.

Mae erlynwyr yn Ffrainc yn ceisio dwyn achos o ddynladdiad yn erbyn y peilot.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nifer o argymhellion i geisio osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.