Mae’r heddlu yn yr Almaen yn dweud bod dogfennau sy’n cynnwys manylion personol ynglŷn ag aelodau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn eu meddiant, a’u bod yn credu eu bod yn ddilys.
Daeth y cyhoeddiad ar ôl i Sky News ym Mhrydain adrodd fod ganddyn nhw 22,000 o ddogfennau IS yn eu meddiant.
Mae’r dogfennau’n rhoi enwau iawn milwriaethwyr IS, o ble maen nhw’n dod, rhifau ffôn a hyd yn oed enwau’r rhai sydd wedi eu noddi neu eu recriwtio.
Dywed y darlledwr bod y ffeiliau wedi cael eu rhoi iddyn nhw ar gofbin a oedd wedi’i ddwyn oddi wrth bennaeth diogelwch IS gan gyn-ymladdwr a oedd wedi ei ddadrithio gyda’r grŵp.
Mae Sky News yn dweud eu bod nhw wedi trosglwyddo’r ffeiliau i ddwylo’r gwasanaethau diogelwch.
Yn ôl papur newydd yr Almaen Sueddeutsche Zeitung maen nhw hefyd wedi cael “dwsinau” o ffeiliau tebyg ar y ffin rhwng Twrci a Syria.
Ychwanegodd gweinidog yr Almaen, Thomas de Maiziere, y byddai’r wybodaeth yn helpu’r awdurdodau i ddod o hyd i, ac erlyn, pobl sydd wedi ymladd ar ran IS.