Aled Martin Jones, o Chwilog, ger Pwllheli
Mae rhieni milwr o Gymru yn dweud nad ydyn nhw’n “cael y gwir” am farwolaeth eu mab, 18 oed, ym Mosnia 20 mlynedd yn ôl.
Yn ôl teulu Aled Martin Jones, o Chwilog, Pwllheli, mae tystiolaeth y fyddin, fod y milwr wedi lladd ei hun, yn anghyson a bod nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb.
Mae’r teulu bellach yn gobeithio y bydd agor cwest newydd i farwolaeth y milwr ifanc o Langollen, Cheryl James ym Marics Deepcut, yn eu helpu nhw i gael rhagor o atebion am eu mab.
Roedd Aled Jones wedi bod ym Mosnia gyda’r fyddin am dair wythnos, cyn i’w gorff gael ei ddarganfod ar 18 Gorffennaf 1996.
Cafodd ei saethu yn ei ben ac roedd reiffl yn ei law, yn gorwedd ar ei frest.
“Rhywun yn rhywle yn gwybod”
“Dwi’n meddwl bod rhywun yn rhywle yn gwybod yn union beth ddigwyddodd ar y noson,” meddai Elaine Higgins, mam Aled Jones, wrth raglen Manylu, BBC Radio Cymru.
“Unai mae’r fyddin yn celu be ddigwyddodd go iawn, neu mae be ddigwyddodd yn wahanol i’r hyn maen nhw’n ei ddweud. Tyda ni ddim yn gwybod. Dwi’n gobeithio wnaiff teuluoedd Deepcut gael y gwirionedd. Os maen nhw’n cael cyfiawnder, efallai y gwneith hynny agor y drws i deuluoedd eraill.”
Heddlu’r fyddin a ymchwiliodd i farwolaeth y milwr ifanc, ac ar ôl ystyried eu tystiolaeth, dyfarnodd y crwner mai achos marwolaeth Aled Jones oedd hunanladdiad.
Er hyn, mae ei deulu yn anghytuno. Doedd dim arwyddion ei fod yn teimlo’n isel ei ysbryd, meddan nhw.
‘Celwydd llwyr’
Yn ôl y teulu, mae tystiolaeth y fyddin yn anghyson hefyd, gyda thystion yn dweud eu bod wedi gweld Aled Jones mewn dau le gwahanol ar yr un pryd.
Yn ôl un tyst, fe wnaeth Aled a’i fam ffraeo dros y ffôn y noson gynt, sy’n gelwydd llwyr yn ôl Elaine Higgins, sydd wedi profi nad oedd ar y ffôn ag ef o gwbl y noson honno.
“Fe wnaeth un ohonyn nhw droi rownd a dweud wrth y crwner ei fod wedi cael ffrae efo fi y diwrnod cynt,” meddai.
“Doeddwn i methu credu be oedd yn dod allan o’i geg. Nes i edrych arno a meddwl ‘ond nes i ddim siarad efo fo’. Felly roeddwn i’n gwybod ei fod o’n dweud celwydd llwyr. Doedd ganddo ni ddim byd yn mynd i mewn i’r cwest, dim adroddiad, dim datganiad.”
Mae hi wedi gofyn i’r fyddin am gofnodion o’r galwadau ffôn oedd wedi eu gwneud o’r gwersyll i brofi nad oedd Aled wedi ffonio hi – ond dydy hi erioed wedi cael eu gweld.
Er mwyn cael cwest newydd mae’n rhaid i’r teulu gael tystiolaeth newydd a allai brofi bod posibilrwydd fod dyfarniad y cwest gwreiddiol yn anghywir, a dyna yw gobaith y teulu.
Datganiad y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mewn datganiad i raglen Manylu, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod yr heddlu milwrol wedi ymchwilio i farwolaeth Aled Martin Jones a bod ymchwiliad swyddogol hefyd wedi bod gan y fyddin yn ogystal â chwest.
Daeth y cwest i’r casgliad – meddai’r datganiad – ei fod wedi lladd ei hun ac y dylai unrhyw gwestiynau am y cwest gael eu cyflwyno i’r crwner.
Bydd rhaglen Manylu, BBC Radio Cymru, yn cael ei ddarlledu heddiw am 12.30pm ac ar BBC iPlayer.