Mae dyn 36 oed wedi bod gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dynes 65 oed ym Mae Caerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Christine James yn ei fflat yn Century Wharf, Bae Caerdydd ddydd Mercher diwethaf, 2 Mawrth.

Cafodd Kris Wade ei arestio ddydd Llun, 7 Mawrth ac fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Caerdydd yfory.

Mae teulu Christine James wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i’w fflat ar ôl i berthnasau gysylltu â nhw am eu bod yn bryderus nad oedd hi wedi cyrraedd maes awyr Gatwick ddydd Sadwrn, 27 Chwefror ar gyfer taith i Fflorida.

Mae dyn 66 oed a gafodd ei arestio wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar  0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod *072884.