David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud y bydd yn sefyll fel ymgeisydd yn ei etholaeth yn Witney, Swydd Rhydychen ar ôl iddo gamu o’r neilltu fel Prif Weinidog.

Fe gyhoeddodd David Cameron y llynedd mai dyma fydd ei dymor olaf yn Rhif 10 ac na fydd yn Brif Weinidog ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2020.

Wrth siarad â BBC Oxford, fe gadarnhaodd ei fwriad i sefyll eto fel AS yn Witney.

“Rwyf wrth fy modd bod yn AS dros Witney ac rwy’n awyddus iawn i barhau,” meddai.