Bydd 90,000 o staff John Lewis a Waitrose yn cael gostyngiad yn eu bonws blynyddol eleni, i lawr i 10%, sy’n doriad o 7% ers 2013.
Dyma’r trydydd tro yn olynol i’r bonws ostwng, gyda staff yn cael 11% y llynedd, 15% yn y flwyddyn flaenorol a 17% yn 2013.
Fe gyhoeddodd y cwmni John Lewis Partnership, elw cyn-treth a chyn eitemau eithriadol o £305.5miliwn ar gyfer y 52 wythnos hyd at Ionawr 30 2016, sy’n gwymp o £342.7miliwn ers y llynedd.
Dywedodd y grŵp fod y bonws partneriaeth o £145 miliwn yn gyfwerth â phum wythnos o dâl ac y bydd yn cael ei roi i 91,500 o aelodau o staff.
Mae’r cwmni o dan bwysau, wrth i gystadleuaeth yr archfarchnadoedd effeithio Waitrose, a welodd ei elw yn cwympo i £232.6 miliwn, o gymharu â £237.4 miliwn y flwyddyn gynt.