Cwch yn cludo ffoaduriaid i Wlad Groeg
Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn rhoi pwysau ar Dwrci i gymryd miloedd o fudwyr yn ôl ac atal eraill rhag dechrau ar eu taith i Ewrop.

Mae Twrci yn gartref i oddeutu 2.75 miliwn o ffoaduriaid – gyda nifer ohonyn nhw’n ffoi rhag y rhyfel cartref yn Syria. Mae’n bartner pwysig i’r UE wrth geisio dwyn perswâd ar bobl i beidio ffoi rhag rhyfel neu dlodi ar gychod ansefydlog ar y daith beryglus ar draws y Môr Aegeaidd.

“Er mwyn osgoi’r sefyllfa lle mae ffoaduriaid  yn cyrraedd Gwlad Groeg, mae’n rhaid i ni gydweithio gyda Thwrci,” meddai Arlywydd Ffrainc Francois Hollande, wrth iddo gyrraedd Brwsel ar gyfer trafodaethau am yr argyfwng ffoaduriaid.

Mewn datganiad drafft, sydd wedi cael ei weld gan The Associated Press, mae’r arweinwyr am weld mudwyr sydd ddim angen cymorth rhyngwladol yn cael eu hanfon yn ôl i Dwrci.

Cau llwybr

Mae Macedonia, sydd i’r gogledd o’r ffin a Gwlad Groeg, wedi cau’r prif lwybr i Wledydd y Balcan, gan ganiatáu nifer fechan yn unig dros y ffin. Mae’r penderfyniad wedi cael cefnogaeth  Awstria, Croatia, Slofenia a Hwngari ond mae wedi cynyddu’r pwysau ar Wlad Groeg ar yr ochr arall gan nad oes digon o loches ar gyfer y ffoaduriaid.

Mae cannoedd ar filoedd o bobl wedi defnyddio’r llwybr dros y misoedd diwethaf er mwyn cyrraedd gwledydd fel yr Almaen a Sgandinafia.

Cyn yr uwch-gynhadledd, roedd tua 13,000-14,000 o bobl yn aros ar y ffin rhwng Gwlad Groeg  a Macedonia gan obeithio cael croesi’r ffin.

‘Angen gweithredu cynlluniau’

Wrth i brif weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras, gyrraedd ar gyfer trafodaethau gyda phrif weinidog Twrci, Ahmet Davutoglu, dywedodd bod angen i’w bartneriaid yn yr UE weithredu cynlluniau i fynd i’r afael a mudwyr.

Roedd arweinwyr yr UE wedi cytuno ym mis Medi’r llynedd y byddai 160,000 o ffoaduriaid a oedd wedi cyrraedd Gwlad Groeg a’r Eidal yn ael eu hail-leoli dros gyfnod o ddwy flynedd.

Ond, hyd at 3 Mawrth, llai na 700 o bobl sydd wedi cael eu had-leoli i wledydd Ewropeaidd eraill.

Dywedodd Ahmet Davutoglu ei fod yn gobeithio y bydd y trafodaethau yn nodi “trobwynt” yn y berthynas gyda’r UE a’u bod yn “barod i gyd-weithio gyda’r UE.”