Christine James
Mae’r heddlu yn apelio o’r newydd am wybodaeth  yn dilyn llofruddiaeth dynes a gafodd ei darganfod yn ei fflat ym Mae Caerdydd ddydd Mercher diwethaf.

Mae dyn 66 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Christine James, 65, bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach gael eu cynnal.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod teulu Christine James wedi cael gwybod ac maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae ditectifs yn yr achos yn gofyn i unrhyw un oedd yn ei hadnabod i gysylltu â nhw, gan y gallai fod ganddyn nhw wybodaeth bwysig a allai eu helpu yn yr ymchwiliad.

 

Cysylltu â ffrindiau a chydnabod yn y bae

Roedd Christine James yn byw mewn fflat yn ardal Century Wharf yn y Bae, ac mae swyddogion yn awyddus i siarad â phobol sydd hefyd yn byw yn yr ardal.

“Fel rhan o’n hymchwiliad rydym yn ceisio creu darlun o drefn ddyddiol Christine a hefyd dod o hyd i’w ffrindiau a’u cydnabod, yn enwedig yn Century Wharf.

“Rydym yn gofyn i’r gymuned i’n helpu i ddod i wybod sut roedd Christine yn treulio ei hamser, llefydd gallai fod wedi ymweld â nhw a phobol y gallai fod wedi siarad â nhw.

“Mae nifer o ymholiadau yn parhau heddiw, gan gynnwys ymholiadau o dŷ i dŷ yn yr ardal, ond rydym yn gofyn i unrhyw un sydd wedi siarad â Christine, neu ei gweld, yn ystod yr wythnosau diwethaf i gysylltu â ni.”

Cafwyd hyd i’w chorff am tua 2:15 prynhawn dydd Mercher, 2 Mawrth a chafodd ei gweld ddiwethaf yn mynd yn ôl i’w fflat yn ei char BMW glas am tua 12:30, dydd Gwener, 26 Chwefror.

Roedd wedi siarad â ffrindiau ar y ffôn am tua 2 o’r gloch y prynhawn hwnnw.

Roedd disgwyl iddi fynd ar drên i Lundain ddydd Sadwrn, 27 Chwefror, i hedfan o faes awyr Gatwick i Florida.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i’w ffonio ar 101 neu drwy Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111, gan ddyfynnu’r rhif *072884.