Mae gyrwyr Trenau Arriva Cymru wedi derbyn cytundeb newydd er mwyn dod ag anghydfod ynglŷn â chyflogau ac amodau gwaith i ben.

Dywedodd undeb Aslef bod ei aelodau wedi derbyn y cynnig mewn pleidlais – gyda 59% o blaid o’r 82% a oedd wedi pleidleisio.

Roedd y gyrwyr wedi cynnal cyfres o streiciau yn ystod yr anghydfod gan amharu ar deithwyr yng Nghymru.