Neil Hamilton
Mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu adroddiadau ynglŷn â pha ymgeiswyr sydd ar frig rhestrau rhanbarthol UKIP ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, gan eu galw’n “druenus.”

Mae’n ymddangos fod Neil Hamilton ar frig y rhestr ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae disgwyl i Mark Reckless fod ar frig y rhestr ar gyfer De Ddwyrain Cymru.

Daw hyn yn dilyn cyfnod o ffraeo mewnol yn erbyn bwriad arweinyddiaeth y blaid yn Llundain i gael enwau amlwg o Loegr i sefyll yng Nghymru.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl hefyd i arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, gyrraedd brig y rhestr ar gyfer Gogledd Cymru. Mae disgwyl i Caroline Jones fod ar frig y rhestr ar gyfer De Orllewin Cymru ac mae disgwyl i Gareth Bennett fod ar frig y rhestr ar gyfer Canol De Cymru.

Anhrefn llwyr

“Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd parêd o gyn-Geidwadwyr yn sefyll dros UKIP ym mis Mai yn dangos cyn lleied mae’r blaid yn gwerthfawrogi Cymru,” meddai Nia Griffith AS.

“Arferai UKIP gredu y dylai’r Cynulliad gael ei ddileu.

“Ond, mae’n edrych yn debyg eu bod wedi cael tröedigaeth ar ôl sylweddoli y gallai’r system restrau ganiatáu iddyn nhw ennill seddau yma.

“Mae’r anhrefn llwyr sydd wedi nodweddu eu proses ddewis yn codi cwestiynau am ba mor ddifrifol maen nhw’n cymryd etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.”

‘Rhaniadau mewnol’

Fe ychwanegodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur ei bod hi’n “druenus mai’r cyfan all UKIP ei gynnig i Gymru yw haid o Geidwadwyr sydd wedi methu.”

“Er gwaetha’ rhaniadau mewnol mawr ynglŷn â’i orffennol dadleuol, mae’r cyn-Geidwadwr Neil Hamilton yn ymuno â Mark Reckless, AS arall o Gaint sydd wedi methu, er mwyn cymryd yr awenau a gobeithion UKIP yng Nghymru.”

“Mae Nigel Farage a sefydliad UKIP wedi dangos eu bod yn poeni mwy am gael ethol eu ffrindiau na rhoi gweledigaeth rymus i Gymru.”

Fe fydd yr ymgeiswyr sydd wedi eu dewis yn cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid sy’n cwrdd yn hwyrach heddiw.

‘Ni neu UKIP’

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, wedi galw ar bobl sydd fel arfer yn pleidleisio am bleidiau eraill yn y seddau rhanbarthol i bleidleisio amdanyn nhw er mwyn “rhoi terfyn ar UKIP.”

Fe esboniodd fod y penderfyniad ynglŷn â’r bedwaredd sedd mewn nifer o seddau rhanbarthol ledled Cymru yn gorwedd rhwng UKIP a’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

 

“Mae angen i bobl sy’n pleidleisio’n draddodiadol am Blaid Cymru, Llafur neu’r Ceidwadwyr bleidleisio yn y bleidlais ranbarthol dros y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig er mwyn rhoi terfyn ar UKIP,” meddai.

“Mae pleidlais i Lafur, yn arbennig, yn wastraff pleidlais oherwydd gallan nhw ddim ennill a gallai UKIP sleifio i mewn.”

“Gadewch inni fod yn glir: does gan UKIP ddim diddordeb mewn sefyll lan dros gymunedau yng Nghymru. Does gan yr un o’r ymgeiswyr sydd wedi eu dewis heddiw record o frwydro dros Gymru, a dyw rhai ohonyn nhw ddim hyd yn oed yn byw yng Nghymru.”