Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf
Mae polisïau ynni Llywodraeth y DU wedi cael eu beirniadu ymhellach wedi i Brif Swyddog Cyllid EDF Energy ymddiswyddo, gan daflu amheuaeth o’r newydd ar ddatblygiad yr orsaf ynni niwclear, Hinkley Point C.

Credir bod Thomas Piquemal wedi gadael ei rôl oherwydd pryderon fod y penderfyniad i fuddsoddi £18 biliwn yn y prosiect yng Ngwlad yr Haf wedi’i wneud yn rhy gynnar, gan beryglu sefyllfa gyllidol y cwmni datblygu EDF Energy.

Mae’r cwmni wedi dweud y bydd Prif Swyddog Cyllid Ffrainc, Xavier Girre, yn cymryd lle Thomas Piquemal.

Fe wnaeth y cwmni, sy’n rhannol eiddo i lywodraeth Ffrainc, roi sicrwydd yn ddiweddar eu bod ar fin gwneud penderfyniad ynglŷn â Hinkley Point C.

Ond, mae cyfres o oedi wedi golygu fod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu eu cynlluniau.

 

‘Cefnogi’r prosiect’

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, David Cameron, fod y Deyrnas Unedig yn “parhau i gefnogi’r prosiect yn llawn” a bod yr Arlywydd Hollande wedi cadarnhau cefnogaeth Ffrainc i’r prosiect hefyd.

“Dydw i ddim yn mynd i hel meddyliau am ymddiswyddiad unigolyn,” meddai.

“Rydym nawr yn aros am y cam nesaf, sef y penderfyniad am fuddsoddiad ariannol. Mae’r trafodaethau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn rhoi ystyriaeth i gefnogaeth llywodraeth Ffrainc.”

Mewn cyfarfod fis diwethaf, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog a’r Arlywydd Hollande fod “cynnydd sylweddol” wedi’i wneud yn y misoedd diweddar gyda bwriad i “gadarnhau’r prosiect.”

Fe gyhoeddodd EDF hefyd y bydden nhw’n ymestyn cyfnod gweithredu pedwar o’r gorsafoedd pŵer niwclear yn y Deyrnas Unedig rhwng pump a saith mlynedd.

‘Clychau argyfwng’

Ond, mae llefarydd ynni’r Blaid Lafur, Lisa Nandy, wedi galw ar y Llywodraeth i esbonio beth yw eu ‘cynllun wrth gefn’.

“Mae’r orsaf bŵer hon yn hollol ganolog i strategaeth y Llywodraeth i fynd i’r afael ag ymrwymiadau Prydain ar newid hinsawdd. Gyda mwy o amheuaeth ynglŷn â’i hadeiladu, mae’n rhaid i weinidogion ddweud wrthym beth yw eu cynlluniau wrth gefn?”

Fe ddywedodd John Sauven, Cyfarwyddwr Greenpeace y dylai “clychau argyfwng fod yn canu’n uchel yn swyddfeydd llywodraeth Ffrainc a’r Deyrnas Unedig.”

“Os yw’r Prif Swyddog Cyllid yn meddwl y bydd y prosiect yn drychineb, mae gobaith y ddwy lywodraeth fod y cytundeb yn agos, yn afresymol.”

Yn gynharach eleni, fe wnaeth ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu datblygiad gorsaf niwclear Wylfa Newydd Ynys Môn honni fod diffyg ymrwymiad EDF i Hinkley Point yn “rhoi dyfodol cynllun Wylfa Newydd yn y fantol hefyd.”