Ffoaduriaid yn cyrraedd ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg
Fe fydd y DU yn darparu “asedau milwrol hanfodol” i helpu ymgyrch Nato i fynd i’r afael a smyglwyr pobl yn y Môr Aegeaidd, meddai David Cameron, wrth i arweinwyr Ewropeaidd ddod at ei gilydd i drafod yr argyfwng ffoaduriaid.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ymuno ag arweinwyr gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd a Thwrci mewn uwch-gynhadledd ym Mrwsel.
Fe gyhoeddodd David Cameron y bydd Llynges Prydain yn anfon llong sy’n gallu glanio ar dir i helpu gydag ymgyrch Nato.
Mae disgwyl i’r llong, sy’n cludo hofrennydd, ddechrau’r gwaith o fewn y dyddiau nesaf, gan geisio dod o hyd i gychod sy’n cludo ffoaduriaid i Wlad Groeg. Fe fydd yn trosglwyddo’r wybodaeth i wylwyr y glannau yn Nhwrci fel eu bod yn gallu atal y cychod.