Mae cynllun newydd yn cael ei gyflwyno i Gymru heddiw a fydd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i fferyllwyr ddelio â chleifion sydd â mân anhwylderau.

Bwriad y cynllun ‘Dewis Fferyllfa’ gan Lywodraeth Cymru, yw ysgwyddo baich meddygon teulu i ddelio ag anghenion mwy cymhleth.

Ar hyn o bryd, mae tua 18% o lwyth gwaith meddygon teulu, ac 8% o ymgynghoriadau mewn adrannau brys ysbytai yn ymwneud â mân anhwylderau.

Fel rhan o’r cynllun, gall pobl weld eu fferyllydd cymunedol a chael triniaeth ddi-dâl yn hytrach na gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu.

Mae’r mân anhwylderau hyn yn cynnwys peswch, annwyd, poen yn y glust, clefyd y gwair, llid pilen y llygad a llai pen.

‘Integreiddio’n llawn’

 

Mae’r cynllun yn rhan o fuddsoddiad gwerth £750,000 gan Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru.

Mae’n golygu y bydd fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn cael eu hintegreiddio’n llawn â meddygon teulu ac ysbytai.

Fe fydd fferyllwyr cymunedol hefyd yn medru cynnal adolygiadau o feddyginiaethau pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ynghyd â darparu cyflenwadau brys o feddyginiaethau ar bresgripsiwn gyda’r hwyr ac ar benwythnosau.

Fe fyddan nhw’n cael mynediad at gofnodion meddygon teulu unigolion neu gofnodion iechyd unigol gyda chaniatâd. Byddant yn cadw cofnodion electronig o ymgynghoriadau â chleifion sydd ag anhwylderau cyffredin, ac fe fydd y wybodaeth ar gael i fferyllfeydd eraill ledled Cymru i gefnogi gofal clinigol

‘Lleihau amseroedd aros’ 

“Drwy ganiatáu i unigolion â mân anhwylderau weld fferyllwyr medrus i gael cyngor a thriniaeth, bydd amser rhydd gan feddygon teulu i ganolbwyntio ar bobl sydd ag anawsterau mwy cymhleth a bydd hefyd yn lleihau amseroedd aros i gleifion,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd rhoi mynediad i fferyllwyr at gofnodion meddygol cryno cleifion yn lleihau’n sylweddol nifer y bobl sydd angen eu hatgyfeirio at y meddyg teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau ac adrannau damweiniau ac achosion bryd a bydd yn gwella diogelwch cleifion yn fawr.”

Mae cynllun peilot eisoes wedi ei gynnal mewn 19 o fferyllfeydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac 13 o fferyllfeydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Fe fydd buddsoddiad y Gronfa Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg hefyd yn gwella gofal cymunedol i ferched beichiog ym Mhowys, ynghyd â chyflwyno system genedlaethol i fonitro heintiau.