Mae arweinydd un o’r grwpiau busnes mwyaf yn y DU wedi ymddiswyddo ar ôl mynegi ei gefnogaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Fe ymddiswyddodd John Longworth fel cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain (BCC) yn dilyn beirniadaeth o’i awgrym y gallai’r DU gael dyfodol mwy “disglair” y tu allan i’r UE.

Mae Downing Street wedi gwadu honiadau gan ymgyrchwyr Brexit eu bod wedi rhoi pwysau ar Siambrau Masnach Prydain i weithredu yn dilyn sylwadau John Longworth yn ystod cynhadledd flynyddol y grŵp ddydd Iau diwethaf.