Un o'r cerbydau arfog a fydd yn cael eu cynhyrchu a'u profi ar y safle Llun: Patrick Olner, General Dynamics
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Merthyr Tudful heddiw i lansio’r ffatri fydd yn cynhyrchu cerbydau arfog  ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Fe fydd 250 o swyddi newydd yn cael eu creu ar safle General Dynamics Land Systems-UK ym Merthyr Tudful.

Mae hyn yn rhan o gontract gwerth £3.5 biliwn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu 589 o gerbydau AJAX, gan ddiogelu 300 o swyddi yn Oakdale hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau benthyciad tuag at gostau cyfalaf sefydlu’r safle newydd ym Merthyr Tudful ac, yn ôl Carwyn Jones, “mae’r newyddion heddiw yn wych i Ferthyr ac i Gymru.”

‘Manteision economaidd’

Esboniodd y Prif Weinidog mai dyma drydydd safle General Dynamics yng Nghymru, ac fe fydd “yn codi enw da Cymru fel y lle o’r radd flaenaf i gynnal gwaith gweithgynhyrchu.”

Fe fydd y cerbydau AJAX yn cael eu dylunio yng Nghymru, gyda safle ymchwil a datblygu yn Oakdale. Bydd y safle ym Merthyr Tudful hefyd yn troi’n ganolfan ragoriaeth yn y DU ac yn arweinydd ym marchnad Cerbydau Brwydro Arfog.

“Roedd yn bleser gennym allu cefnogi’r buddsoddiad diweddaraf hwn sydd o bwys strategol ac rwy’n edrych ymlaen at y manteision economaidd mawr y bydd yn eu creu,” ychwanegodd y Prif Weinidog.

“Fe wnaethon bob dim yn ein gallu i weithio gyda General Dynamics o’r cychwyn a chwarae rôl hollbwysig i helpu i sicrhau’r buddsoddiad hwn a’r swyddi ar gyfer Cymru.”

‘Sgiliau uchel’

Mae General Dynamics yn cyflogi tua 550 o bobl sydd â sgiliau uchel yn ei safle yn Oakdale, ac mae 300 ohonynt yn rhan o raglen AJAX.

Cafodd contract gwerth £390 miliwn ei ddyfarnu i’r cwmni i roi cymorth i fflyd AJAX tan 2024 a bydd y gwaith hwnnw hefyd yn cael ei wneud ym Merthyr.