Alexis Tsipras, pris weinidog gwlad Groeg (llun: PA)
Mae gwlad Groeg yn wynebu argyfwng cynyddol wrth i fwy a mwy o ffoaduriaid gyrraedd yno a chyfyngiadau llymach gan awdurdodau Macedonia yn eu rhwystro rhag symud ymlaen i wledydd eraill.

Mae o leiaf 18 o bobl, gan gynnwys tri o blant, wedi boddi gerllaw arfordir Twrci wrth geisio croesi i wlad Groeg heddiw.

Gydag uwchgynhadledd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Thwrci yfory i drafod yr argyfwng, dywed llywodraeth gwlad Groeg nad oes ganddi obaith arafu’r llif oni bydd Twrci’n rhwystro’r cychod rhag gadael ei glannau.

“Mae’n hanfodol bod proses ddibynadwy o ail-leoli ffoaduriaid o’n gwlad ni i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd yn cychwyn yn ddi-oed,” meddai prif weinidog gwlad Groeg, Alexis Tispras, mewn araith heddiw.

“Dyna beth fyddwn ni’n ei geisio yn yr uwch-gynhadledd yfory. Nid cytuno ar y geiriad yn unig sy’n fater o frys, ond sicrhau ei fod yn cychwyn ar unwaith ac yn ymwneud â niferoedd mawr.”

Gwersyll anferthol

Gyda miloedd yn cyrraedd Piraeus, prif borthladd gwlad Groeg, o’r ynysoedd, mae tua 13,000 i 14,000 o ffoaduriaid mewn gwersyll anferthol yn Idomeni, gerllaw’r ffin â Macendonia.

Drwy gydol y bore yma, mae llawer o Roegwyr lleol wedi bod yn cyrraedd yno gyda’u ceir yn llawn o fwydydd a dilladau i’w rhannu ymysg y miloedd o ffoaduriaid.

Mae’r niferoedd wedi llethu’r awdurdodau yn y wlad, gyda chiwiau o gannoedd o bobl yn ffurfio’n gynnar yn y bore a phobl yn disgwyl am oriau am damaid i’w fwyta amser cinio.