Diwrnod cymysg a gafodd y ddau geffyl blaen yn y ras am arlywyddiaeth America ddoe, wrth i bedair talaith arall gynnal eu hetholiadau.

Yn etholiadau’r Gweriniaethwyr, enillodd Donald Trump daleithiau Lousiana a Kentucky, ond Ted Cruz a enillodd Kansas a Maine.

Ymhlith y Democratiaid, daeth Hillary Clinton i’r brig yn Lousiana yn y de, ond collodd Nebraska a Kansas i Bernie Sanders. Mae hi bellach wedi ennill 1,117 o gynrychiolwyr o gymharu â’r 477 sydd gan Bernie Sanders.

Fe fydd Democratiaid Maine yn pleidleisio heddiw.

Mae Ted Cruz, sydd wedi ennill 291 o gynrychiolwyr o gymharu â’r 375 sydd gan Donald Trump, wedi galw ar ymgeiswyr eraill y Gweriniaethwyr i roi’r gorau iddi fel y gallai gael siawns o rwystro Trump.

Mae rhai o arweinwyr y Gweriniaethwyr gan gynnwys Mitt Romney, ymgeisydd yr arlywyddiaeth yn 2012, a’r Seneddwr John McCain, yr ymgeisydd yn 2008, wedi datgan eu pryder ynghylch y rhagolygon o gael Donald Trump fel ymgeisydd.

Maen nhw o’r farn y byddai hynny’n arwain at drychineb etholiadol ym mis Tachwedd, ond mae Ted Cruz hefyd yn wleidydd yr un mor ddadleuol ac yn cael ei ystyried fel arch-geidwadwr.