Maer Llundain, Boris Johnson (llun o'i wefan)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron a Maer Llundain, Boris Johnson, yng ngyddfau ei gilydd ar ôl i gyfarwyddwr cyffredinol y sefydliad Siambrau Masnach Prydain (BCC) gael ei ddiswyddo dros dro.

Roedd John Langworth wedi awgymu y gallai Prydain gael dyfodol mwy disglair y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Boris Johnson yn cyhuddo’r Prif Weinidog a’i gefnogwyr sydd o blaid gweld Prydain yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd o roi pwysau ar BCC i weithredu yn erbyn eu cyfarwyddwr.

“Mae’n sgandal o’r mwyaf fod John Langworth wedi cael ei orfodi i gamu o’r neilltu,” meddai.

“Dyma ddyn sydd wedi dod i’r casgliad – ar ôl meddwl am hir a phrofiad oes mewn busnes – y byddai’n well pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’n siarad dros lawer o fusnesau bach a chanolig ac mae’r cyhoedd yn haeddu cael y ffeithiau.

“Pan mae gan rywun y dewrder i wrthod lein y sefydliad, mae’n gwbl anghyfiawn ei fod ef neu hi yn cael eu tanseilio ar unwaith gan asiantau Project Fear.”

Gwrthod honiadau

Mae’r Prif Weinidog yn gwrthod unrhyw honiadau o ymyrryd.

Meddai llefarydd ar ran Rhif 10:

“Drwy fod 60% o aelodau’r BCC yn dweud bod arnyn nhw eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd, syndod i Rif 10 oedd gweld cyfarwyddwr cyffredinol y sefydliad yn dod allan o blaid Brexit.

“Rydym yn glir na roddwyd unrhyw bwysau ar BCC i’w ddiswyddo dros dro. Wrth gwrs bod Rhif 10 yn siarad gyda sefydliadau busnes yn rheolaidd – ond ni roddwyd unrhyw bwysau. Mater i’r BCC yn llwyr yw’r penderfyniad.”