Mae dyn 58 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl digwyddiad yn ardal Trelài o Gaerdydd ddydd Iau.
Cafwyd hyd i Clint Simms, 39 oed, wedi ei anafu ar Ffordd Glyndwr ychydig wedi 11.30 fore Iau, ar ôl i’r gwasanaethau brys dderbyn adroddiad am achos o drywanu. Methiant fu ymgais meddygon a pharafeddygon i’w achub a bu farw.
Mae Stephen John Pike o Drelài wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ac o ddwy drosedd o fod â chyllell neu lafn yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon Caerdydd yfory.
Mae’r heddlu’n dal i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.
Meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Gareth Morgan o Heddlu De Cymru:
“Mae Elai yn ardal brysur ac rydym yn apelio ar i unrhyw un a welodd gythrwfl yn Mill Road, Fiat gwyn yn cael ei yrru o gwmpas Elai, neu’r hyn a ddigwyddodd ar Ffordd Glyndwr, gysylltu â ni ar 101.”