Darren Millar (llun o'i wefan)
Os mai’r Ceidwadwyr fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, fe fyddan nhw’n cyflwyno deddf a fyddai’n gorfodi ysbytai i nodi sgoriau eu perfformiad ar eu drysau.
Dywed y Ceidwadwyr fod hyn yn rhan o’u cynllun i roi mwy o ddewis i gleifion y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Byddai disgwyl i Arolygiaeth Iechyd Cymru sgorio perfformiad ar sail pethau fel gallu ysbyty i ddarparu triniaeth brydlon, a ydyn nhw’n trin cleifion gydag urddas a pharch, glanweithdra, cyfraddau heintiau ysbytai a phrofiad cyffredinol cleifion.
Wrth gyhoeddi’r ymrwymiad, meddai cysgod weinidog iechyd y Torïaid, Darren Millar AC:
“Mae blynyddoedd o dan-wario gan Lafur Cymru wedi bod yn ergyd i hyder cleifion yn ein Gwasanaeth Iechyd ac mae angen camau radical i’w adfer.
“Trwy ddeddfu i gyflwyno trefn Sgoriau ar Ddrysau a mwy o ddewis i gleifion, byddai Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn sicrhau bod gan gleifion fwy o wybodaeth nag erioed o’r blaen am eu hysbyty lleol, ac yn eu grymuso i ddewis ysbyty i fynd am driniaeth.”