Arnaldo Otegi yn cyfarch y rali neithiwr (G360)
Fe ddaeth un o arweinwyr gwleidyddol Gwlad y Basg allan o’r carchar i ddweud bod rhaid i’r wlad ddilyn Catalwnia a dechrau ar ymgyrch annibyniaeth.
Roedd tua 10,000 o bobol wedi casglu mewn stadiwm seiclo yn ninas Donostia (San Sebastian) neithiwr bedwar niwrnod wedi i Arnaldo Otegi gael ei ryddhau.
Roedd tua 5,000 arall yn gwylio ar sgriniau mewn adeilad drws nesa a miloedd wedyn yn sefyll y tu allan yn y glaw.
Mae ryddhau Arnaldo Otegi yn cael ei weld yn gyfle gan genedlaetholwyr Basgaidd i greu clymblaid ar y chwith ac arwain y wlad, fel Catalwnia, at refferendwm annibyniaeth – er fod gwladwrieth Sbaen yn gwrthod hynny’n llwyr.
‘Refferendwm neu fynd’
“Os na fydd Sbaen yn derbyn ein refferendwm ni, fe fydd rhaid i ni ddweud ‘R’yn ni’n gadael’,” meddai Arnaldo Otegi ar ôl awr a hanner o ganu, areithio a pherfformiadau’n ei gefnogi.
“Y ffordd orau i ni gefnogi Catalwnia yw gwneud yr un peth – creu ail fwlch yng ngwladwriaeth Sbaen a hynny cyn gynted â phosib.”
Yr elfen arall newydd yn ei neges oedd ei bwyslais ar greu clymblaid eang, i gynnwys pawb sydd i’r chwith o’r canol ac yn credu yn annibyniaeth Gwlad y Basg.
Fe heriodd y brif blaid genedlaetholgar, asgell dde, i gefnogi, neu orfod dilyn ac fe bwysleisiodd fod lle i bawb oedd wedi symud i Wlad y Basg ac mai yn erbyn llywodraeth Sbaen yr oedd eu brwydr, nid yn erbyn pobol gyffredin y wlad.
Otegi – y cefndir
Mae Arnaldo Otegi, sy’n 57 oed, wedi cael ei gymharu i Gerry Adams, Llywydd Sinn Fein yn Iwerddon ac un o’r arweinwyr rhyngwladol oedd wedi anfon cyfarchion i’r rali yn Donostia.
Ar ôl dechrau gweithredu gyda mudiad brawychol ETA, fe drodd ei gefn ar drais ac roedd yn un o griw bach o wleidyddion a lwyddodd i berswadio ETA i roi’r gorau iddi.
Mae ei gefnogwyr yn dweud ei fod wedi ei garcharu ar gam wedyn ar gyhuddiad o geisio atgyfodi adain wleidyddol ETA tra’i fod mewn gwirionedd wedi ei benodi o’r carchar yn Ysgrifennydd Cyffredinol plaid heddychlon Sortu.
Mae hefyd yn arweinydd ar glymblaid o bleidiau cenedlaetholgar y chiwth, dan yr enw Bildu.
Carcharorion gwleidyddol
Yr elfen arall yn y rali oedd galwadau am ryddhau tua 400 yn rhagor o garcharorion gwleidyddol, neu eu symud i garchardai ynn Ngwlad y Basg.
Mae Llywodraeth Sbaen yn gyson wedi gwrthod derbyn bod ETA yn rhoi’r gorau i ymladd.