Huw Prys Jones yn trafod rhagolygon Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad

Mae cyfuniad o amgylchiadau am olygu y bydd Plaid Cymru’n wynebu her digon anodd yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Er bod arolygon barn yn awgrymu ei bod yn rhesymol disgwyl iddi ddal ei thir yn weddol o safbwynt cyfanswm ei phleidleisiau, ni fydd mor hawdd iddi ddal gafael ar ei nifer o seddau.

Mae hyn yn bennaf oherwydd y drefn etholiadol. Yn gyffredinol, mae Plaid Cymru wedi gwneud yn dda allan o’r seddau rhanbarthol. Ond fydd pethau ddim mor hawdd y tro hwn – oherwydd y bydd yna gyw gog newydd yn y nyth.

Mae Ukip bron yn sicr o ennill o leiaf un sedd ranbarthol ym mhob rhan o Gymru, ac efallai ddwy sedd mewn rhai ardaloedd.

Mae Plaid Cymru’n sicr o ddioddef yn sgil hyn, hyd yn oed os na fydd y ddwy blaid yn cystadlu am yr un math o bleidleisiau.

Mae’n golygu y bydd canlyniad Llanelli o arwyddocâd fwy fyth i’r Blaid y tro hwn. A hithau’n sedd mor ymylol, byddai’n sicr o fod yn brif darged p’run bynnag. Ond gyda phob argoel y bydd ei sedd ranbarthol yn y Canolbarth a’r Gorllewin yn cael ei cholli, fe fydd yn rhaid iddi ennill Llanelli er mwyn dal ei thir yn y rhanbarth.

Yn yr un modd, mae am fod bron yn amhosibl iddi ddal gafael ar ei dwy restr yn ne-ddwyrain Cymru, lle mae ennill sedd etholaeth yno yn ymddangos ymhell o’i gafael.

Yn rhanbarth arall y de, mae’n golygu na fyddai enillion dramatig posibl fel y Rhondda, neu hyd yn oed Orllewin Caerdydd, o angenrheidrwydd yn arwain at gynnydd yn y nifer o seddau, oni bai bod y ddwy’n cael eu hennill. Byddai’n rhaid iddi ennill o leiaf ddwy etholaeth ychwanegol yn y gogledd hefyd cyn gweld cynnydd yng nghyfanswm ei seddau.

Cysgod y refferendwm

Mae’n anochel hefyd y bydd refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn taflu cysgod ar ymgyrch y Cynulliad.

Dydi hynny ynddo’i hun, fodd bynnag, ddim yn golygu o angenrheidrwydd y dylai Plaid Cymru ddioddef yn waeth na’r un o’r pleidiau eraill. Ac yn sicr, does dim pwynt o gwbl mewn dal i gwyno am y ffaith fod y refferendwm yn cael ei gynnal mor agos i’r etholiad.

Yn yr un modd, waeth i Blaid Cymru heb â gobeithio chwaith na fydd agweddau at Ewrop yn ffactor allweddol yn yr etholiad. Mae’n bwnc mwy tyngedfennol na’r rhan fwyaf o bethau fydd yn cael eu trafod yn ymgyrch y Cynulliad.

Ond yn lle digalonni am y peth, yr hyn y dylai ei gwleidyddion ei wneud ydi manteisio ar y cyfle i ysbrydoli ei chefnogwyr gydag ymosodiadau cwbl ddigyfaddawd ar genedlaetholdeb Seisnig. Mae’n gyfle hefyd i ymfalchïo yn y traddodiad rhyngwladol a’r syniad o undod Ewropeaidd a oedd yn rhan greiddiol o weledigaeth Saunders Lewis ac eraill o’i harweinwyr cynnar.

Amcanion cyfansoddiadol

Diddorol oedd sylw Leanne Wood yn ei haraith ddoe pan ddywedodd nad cyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Uno sy’n dal Cymru’n ôl bellach ond yn hytrach y Blaid Lafur a’r Torïaid.

Gyda’r twf sydd wedi digwydd mewn datganoli a methiannau Llywodraeth Cymru o dan Lafur, rhaid cydnabod bod llawer o wir yn hyn.

Ar y llaw arall, o gofio thema mor allweddol y bu’r Ddeddf Uno i Blaid Cymru dros y blynyddoedd, mae’n haeriad chwyldroadol i’w harweinydd fod yn ei wneud.

Mae’n debyg ei fod yn arwydd o’r dilema sy’n wynebu Plaid Cymru.

Mae’r Blaid yn osgoi unrhyw gyfeiriad at amcanion cyfansoddiadol yn yr etholiad yma, ac ar un ystyr mae’n hawdd gweld pam.

Gydag un arolwg barn ar ôl y llall yn dangos nad oes mwy na thua 5% i 10% o bobl Cymru’n ffafrio annibyniaeth, ffolineb lwyr fyddai i Blaid Cymru ddisgwyl llwyddiant drwy sylfaenu ei hapêl ar hynny.

Mae’n wir y byddai cnewyllyn caled o genedlaetholwyr yn dadlau mai hyrwyddo annibyniaeth ddylai prif swyddogaeth plaid genedlaethol fod, waeth beth fyddai’r gost etholiadol. Ond afrealistig fyddai disgwyl i unrhyw blaid wleidyddol allu cynyddu’r gefnogaeth bitw bresennol sydd i annibyniaeth, heb fod yna fudiad cenedlaethol ehangach i hyrwyddo’r syniad.

Os mai aros yn ei unfan, neu hyd yn oed leihau, y mae’r galw am annibyniaeth, mae’n ymddangos bod y gefnogaeth i ddatganoli pellach yn dal i gynyddu. Mae twf sylweddol hefyd wedi bod mewn datganoli, a gobaith am dwf pellach, yn enwedig yn wyneb penderfyniad y Torïaid i ddatganoli pwerau trethu heb angen am refferendwm.

Yr eironi yw y bydd y datblygiadau hyn, er yn cael eu croesawu’n wresog gan aelodau a gwleidyddion Plaid Cymru, yn gosod her newydd i’r Blaid yn y dyfodol.

Pan fydd cymaint o’i hamcanion cyraeddadwy eisoes wedi eu gwireddu, beth fydd apêl unigryw Plaid Cymru?

Pynciau craidd

Mae’n ymddangos mai’r ffordd y maen nhw wedi ceisio mynd o’i chwmpas hi yn yr etholiad yma ydi trwy ganolbwyntio ar bynciau craidd fel iechyd, addysg a’r economi.

I’r graddau bod ganddyn nhw gasgliad o bolisïau sy’n ddigon clodwiw ynddyn nhw’u hunain, maen nhw wedi llwyddo. Ar y llaw arall, go brin bod y pentwr o addewidion hyn yn ffurfio cyfanwaith sy’n ddigon cyffrous i ysbrydoli ac i gydio yn nychymyg y cyhoedd.

Mae eu slogan etholiadol ‘Cymru Iach, Glyfrach a Chyfoethocach’ hefyd yn enghraifft berffaith o’r math o siarad gwag sy’n diflasu etholwyr. A fyddai unrhyw wleidydd yn rhywle yn dymuno gweld gwlad afiach, llai clyfar a thlotach?

Mae lle i amau doethineb eu dadl hefyd dros wneud yr etholiad yn refferendwm ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, pan fydd y rhai sy’n anfodlon efo’r gwasanaeth yr un mor debygol o bleidleisio i’r Torïaid ac Ukip ag y byddan nhw i Blaid Cymru.

Rywbryd, ar ôl yr etholiad bellach, fe fydd angen i Blaid Cymru fynd ati o ddifrif i geisio’r math o weledigaeth a fydd yn ei galluogi i wneud ei marc o ddifrif yng Nghymru.

Gwahaniaethu

Mae’r Blaid hefyd wedi rhoi ei hun mewn rhywfaint o gongl yn y ffordd y mae wedi gwahaniaethu rhwng Llafur a’r Torïaid wrth drafod unrhyw gydweithio.

Wrth gwrs, mi fyddai’n sefyllfa wrthun gweld Plaid Cymru’n rhoi unrhyw fath o gymorth i Andrew R T Davies ddisodli Carwyn Jones fel prif weinidog. Mi fyddai hynny’n gwbl groes i ddymuniadau’r mwyafrif llethol o’i chefnogwyr.

Ar y llaw arall, anodd gweld pam na allai ymrwymo i beidio ag ethol prif weinidog Torïaidd ar y naill law, ond gan gadw’i dewisiadau’n agored petai’r fath wyrth yn digwydd â phetai Plaid Cymru’n dod yn blaid fwyaf.

Ei phroblem gyda’i lein bresennol ydi ei bod yn gwanhau ei hymosodiadau ar y ffordd y mae Llafur wedi camlywodraethu Cymru dros y blynyddoedd.

Ar y naill law, mae’n dadlau bod y ddwy blaid fawr cynddrwg â’i gilydd, ond gan ei bod yn llai diamwys ynghylch y syniad o gydweithredu â Llafur, mae’n amlwg hefyd ei bod yn ystyried Llafur fel y lleiaf o ddau ddrwg.

Mae barn felly’n ddigon rhesymol ynddi’i hun, ond yn gwbl ddisynnwyr yn wleidyddol. Y ddadl ‘lleiaf o ddau ddrwg o gymharu â’r Torïaid’ ydi’r union beth y mae Llafur wedi sylfaenu ei holl apêl arni yng Nghymru dros y blynyddoedd. Heb fod Plaid Cymru yn llwyddo i danseilio’r ddadl yma, fydd ganddi ddim gobaith mul o drechu goruchafiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.