Mae Heddlu De Cymru’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn a fu farw ar ôl cael ei drywanu yn ardal Elai o Gaerdydd ddydd Iau.

Cafwyd hyd i Clint Simms, 39 oed, wedi ei anafu ar Ffordd Glyndwr am 11.30 am, ac mae dyn 58 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dal i fod yn y ddalfa.

Mae dyn 37 oed, a oedd hefyd wedi cael ei arestio ynglyn â’r digwyddiad, wedi cael ei ryddhau heb gyhuddiad.

Y gred yw bod Clint Simms wedi dioddef ymosodiad y tu allan i eiddo yn Mill Road, gerllaw pont Elai tua 11.15am. Aed ag ef wedyn mewn Fiat Doblo gwyn i Ffordd Glyndwr lle cafwyd hyd iddo, a lle bu farw, er gwaethaf ymdrechion meddygon a pharafeddygon.

Meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Gareth Morgan o Heddlu De Cymru:

“Mae Elai yn ardal brysur ac rydym yn apelio ar i unrhyw un a welodd gythrwfl yn Mill Road, Fiat gwyn yn cael ei yrru o gwmpas Elai, neu’r hyn a ddigwyddodd ar Ffordd Glyndwr, gysylltu â ni ar 101.”