Adam Price
Beth bynnag arall fydd yn digwydd yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, fe fydd Llafur yn colli, yn ôl un o wleidyddion amlycaf Plaid Cymru.
Wrth annerch cynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn Llanelli, meddai’r cyn-AS Adam Price, sy’n gobeithio cynrychioli ei hen etholaeth, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn y Cynulliad o fis Mai ymlaen.
“Mae naw wythnos i fynd a does dim un bleidlais wedi’i bwrw eto, ond dw i’n meddwl y gallwn ni ddarogan yn hyderus y bydd Llafur yn colli ym mis Mai,” meddai.
“Ac maen nhw’n haeddu colli, oherwydd maen nhw eisoes wedi colli unrhyw synnwyr o gyfeiriad, unrhyw ronyn o greadigrwydd, o weledigaeth o symbyliad.
“Maen nhw wedi ein rhoi ni ar waelod y gynghrair o ran ffyniant, cyflogau, llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth.
“Gennym ni y mae’r gyfradd uchaf o segurdod economaidd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.
“Mae gennym 360,000 o bobl yng Nghymru ar restrau aros ysbytai.
“Mae arnom eisiau gwell na hyn. Mae ar Gymru angen gwell na hyn.
“Peidied neb â dweud na all Cymru fod yn wlad o gyfle.
“Am y naw wythnos nesaf mae’n dyfodol yn ein dwylo ni’n hunain. Rydym yn wlad ddawnus, a pheidied neb ag amau’r hyn y gall Cymru ei gyflawni.”